Ymgyrchydd Tenantiaid yn cael ei ethol yn Is-Gadeirydd TPAS Cymru
Mae bwrdd TPAS Cymru wedi ethol Emma Parcell, yr ymgyrchydd tenantiaid poblogaidd, yn Is-Gadeirydd TPAS Cymru.
Emma is well known in tenant engagement circles having been a passionate campaigner of Gwalia Disability Group (now Pobl). She has also chaired Pobl’s Customer Service CommitteeMae Emma yn adnabyddus mewn cylchoedd ymgysylltu â thenantiaid ar ôl bod yn ymgyrchydd brwd i Grŵp Anabledd Gwalia (Pobl erbyn hyn). Mae hi hefyd wedi cadeirio Pwyllgor Gwasanaethau Cwsmeriaid Pobl.
Yn ystod ei chyfnod ar fwrdd TPAS Cymru, mae hi wedi dod â phersbectif tenantiaid gwerthfawr i waith y Bwrdd yn ogystal â dod â’i harbenigedd ar ôl dychwelyd i addysg yn ddiweddar gan ennill anrhydedd dosbarth 1af mewn gradd tai ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd!
Mae ethol Emma yn Is-Gadeirydd yn golygu bod rôl Cadeirydd ac Is-Gadeirydd TPAS Cymru ill dau yn cael eu cyflawni gan denantiaid gan mai Bill Hunt, tenant Cartrefi Conwy sy’n dal swydd y Cadeirydd.
Wrth sôn am ei phenodiad dywedodd Emma:
‘…Mae’n bleser ac yn anrhydedd i mi fod yn is-gadeirydd TPAS Cymru, rwyf wedi gwasanaethu fel aelod bwrdd am 4 blynedd. Fel tenant tai cymdeithasol Pobl ac sydd wedi graddio’n ddiweddar gyda BSc (Anrh) Astudiaethau Tai, rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod tenantiaid yn cael eu cynrychioli ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’n Cadeirydd ac aelodau bwrdd i gefnogi’r tîm staff ymroddedig yn TPAS Cymru i barhau i ddarparu gwasanaethau a hyfforddiant gwych i denantiaid a’r sector tai yng Nghymru...’
Emma Parcell, CIHM
Twitter: @emmaparcell79
LinkedIn: https://www.linkedin.com/in/emma-parcell-637888154/