Rydym yn falch o lansio ein hail Arolwg Tenantiaid Cenedlaethol blynyddol, sy’n archwilio barn tenantiaid ar eu cartrefi, eu cymunedau a materion sy’n wirioneddol bwysig iddynt

Yr ail Arolwg Tenantiaid Cenedlaethol Blynyddol 

Ydych chi'n denant sy'n rhentu yng Nghymru?

Rydym yn falch o lansio ein hail Arolwg Tenantiaid Cenedlaethol blynyddol, sy’n archwilio barn tenantiaid ar eu cartrefi, eu cymunedau a materion sy’n wirioneddol bwysig iddynt.

Credwn fod y canfyddiadau a’r argymhellion yn cynnig cipolwg gwerthfawr ar yr heriau y mae tenantiaid yn eu hwynebu ar hyn o bryd, a sut mae tenantiaid yn teimlo am eu cartrefi a’u rhent ar yr adeg hollbwysig hon wrth i ni gerdded drwy’r argyfwng costau byw presennol a thrafodaethau rhent yn y sector tai.

Rydym angen eich llais ar hyn o bryd i wneud yn siŵr eich bod yn cael eich cynrychioli yn ein hadroddiad ar leisiau tenantiaid yng Nghymru, an hargymhellion ar gyfer y dyfodol dros y flwyddyn nesaf i randdeiliaid a swyddogion y Llywodraeth..

Os ydych yn denant Tai Cymdeithasol gwnewch yn siŵr bod eich barn yn cael ei chlywed trwy lenwi'r arolwg tai cymdeithasol yma

Os ydych yn rhentu gan landlord preifat neu asiant gosod tai, gwnewch yn siŵr bod eich barn yn cael ei chlywed trwy lenwi arolwg y sector rhentu preifat yma

Pwls Tenantiaid yw panel swyddogol Cymru gyfan ar gyfer tenantiaid sy’n rhoi eu barn ar y pethau sy’n bwysig iddyn nhw. Cafodd ei greu 4 blynedd yn ôl gan TPAS Cymru (o dan raglen waith a gefnogir gan Lywodraeth Cymru). Mae’n cael ei redeg bob chwarter ar faterion cyfoes i helpu i lunio polisi tai yng Nghymru. Mae'n cynnwys tenantiaid tai cymdeithasol (Cymdeithasau Tai a thai Cyngor) yn ogystal â rhentwyr preifat a'r rhai mewn tai â chymorth.

Os ydych yn denant,  beth am ymuno â'n panel Pwls Tenantiaid a dweud eich dweud? 

Hoffai TPAS Cymru ddiolch i'r holl denantiaid a roddodd o'u hamser i gwblhau'r arolygon. Rydym wir yn gwerthfawrogi eich amser.

Mae Pwls Tenantiaid yn rhan o'n gwaith Llais y Tenant a noddir gan