Staff TPAS Cymru yn nodi eu hoff fyrdd i ‘uwchgylch yr hyn maent yn ailgylchu’, gan roi awgrymiadau i chi ar sut i wella eich ailgylchu, a’i wneud yn fwy creadigol ac ymgysylltiol ar gyfer y teulu gyfan

 

 

 

Uwchgylchu Ailgylchu:  Diwrnod Ailgylchu Byd-eang 2020

 

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae ailgylchu a lleihau gwastraff wedi dod yn rhan enfawr o'n bywydau bob dydd. Roedd Diwrnod Ailgylchu Byd-eang ar 18 Mawrth 2020, fodd bynnag, yma yn TPAS Cymru, credwn na ddylid ailgylchu dim ond un diwrnod o'r flwyddyn.

Yma yn TPAS Cymru, rydym wedi rhoi rhai o’n hoff ffyrdd i ‘uwchgylchu sut rydym yn ailgylchu’, gan wneud ailgylchu yn fwy o hwyl a diddorol, ar gyfer pob oedran.

O ddiffodd trydan i ail-bwrpasu hen loriau, mae yna wastad ffordd i achub ein byd heriol.  Yn gyntaf, mae ein Swyddog Polisi ac Ymgysylltu, Elizabeth, wedi ysgrifennu am gwmni lleol y mae TPAS Cymru wedi gweithio efo yn ddiweddar…

 

1. Greenstream Flooring

“Ar Ddiwrnod Ailgylchu Byd-eang, hoffem grybwyll Greenstream Flooring. Datblygwyd Greenstream i atal gwastraffu teils carped a'u hanfon i safleoedd tirlenwi. Roeddent yn cydnabod bod bywyd ar ôl yn y teils ac y gellir eu hailddefnyddio i arbed carbon. Mae hefyd yn eu galluogi i ddarparu lloriau cost isel i sefydliadau ac unigolion na allent fforddio carped. Maent yn darparu datrysiadau swyddfa gylchol i leihau gwastraff, inswleiddio a rhoi cysur, ac yn galluogi tenantiaid i deimlo’n fwy ‘gartrefol’.”

Mae Elizabeth, ar y cyd â Thai Pawb, yn ddiweddar wedi ysgrifennu adroddiad ar ddarpariaeth lloriau mewn tai cymdeithasol. Ewch i’n tudalen Facebook i wybod mwy am brosiect Elizabethgan ddarparu carped newydd hyfryd i denant o'r enw Jason, wedi'i roi gan Greenstream Flooring.

 

 

Nesaf, mae gan ein Swyddog Cyfathrebu Digidol, Ruby, ffordd ddigidol iawn i dreulio'ch cyfnod hunan-ynysu tra hefyd yn rhoi allfa greadigol i chi ac yn lleihau'ch gwastraff plastig yn gynhyrchiol!

 

2. Potiau Planhigion Poteli Plastig

Ffordd wych o ‘uwchgylchu sut rydych yn ailgylchu’ yw bod yn greadigol. Enghraifft dda o hyn yw defnyddio hen boteli plastig i dyfu hanfodion cegin, fel perlysiau a sbeisys. Mae hwn yn weithgaredd teuluol hyfryd, a all wneud ailgylchu yn fwy deniadol - yn enwedig i blant ifanc.
 

 

Sut: Planhigion boteli plastig

Torri potel blastig yn ei hanner
Defnyddiwch yr hanner isaf fel y 'pot' blodau
Llenwch botel blastig gyda 2 fodfedd o bridd
Mae hyn yn rhoi sylfaen dda i'r planhigyn eistedd arno

Rhowch y planhigyn a gwreiddiau ar ei ben
Eisteddwch y planhigyn ar ben y pridd, gan ei ddal yn gadarn

Gorchuddiwch y gwreiddiau gyda mwy o bridd
Tra’n dal y planhigyn, arllwyswch bridd dros y gwreiddiau nes bod y gwreiddiau wedi'u gorchuddio'n llawn

Sicrhewch fod y pridd yn dynn
Mae hyn er mwyn sicrhau nad oes swigod aer, a all ladd y planhigyn

 

Ond, nid hwn yw'r unig ddyluniad planhigion potel blastig y gallwch ei wneud. Edrychwch ar rai enghreifftiau isod o sut y gallwch chi gymryd fy nghanllaw syml a'i ehangu i greu rhai potiau planhigion ffynci, llachar a dyfeisgar.


 

A dyna fo! Dyna eich pot planhigion cartref. Gall paentio ac addurno'r plastig fod yn weithgaredd gwych i blant. Yn olaf, gallwch hyd yn oed eu defnyddio i dyfu eich ffynonellau bwyd eich hun, gan leihau eich ôl troed carbon hyd yn oed yn fwy. 

Ac yn olaf, mae ein Swyddog Aelodaeth a SRhP, Lewis, wedi ysgrifennu am ddull ailgylchu cyffrous iawn nad ydym erioed wedi clywed amdano o'r blaen!

 

3. Ecofric

Mae fy mhrosiect diddorol i ar gyfer Diwrnod Ailgylchu Byd-eang yn cyfuno dau beth rwy'n angerddol iawn amdanynt: ailgylchu ac adeiladu gwyrdd. Ychydig flynyddoedd yn ôl, clywais am ddull newydd i greu deunydd adeiladu allan o blastig gwastraff – Ecofric.

 

Mae ecofric yn cael eu creu trwy lenwi poteli diodydd plastig gyda phlastig gwastraff o becynnau creision, deunydd lapio ac ati. Unwaith y bydd y plastig yn cyrraedd dwysedd penodol, gellir defnyddio'r botel - sydd bellach yn ecofric - i greu dodrefn neu strwythurau. Mae crewyr clyfar wedi defnyddio ecofric i adeiladu byrddau, cadeiriau, planwyr a hyd yn oed adeiladau.

Trwy greu ecofric, gallwn dynnu plastig o'r biosffer, a'i droi yn adnodd adeiladu y gellir ei ailddefnyddio. Mae angen lleiafswm o offer arno - dim ond y plastig gwastraff a ffon ddefnyddiol i'w bacio i mewn i'r poteli! Er na fydd hyn yn datrys gwastraff plastig byd-eang yn gyfan gwbl, mae'n ffordd arloesol o'i dynnu o'n hamgylchedd lleol.

Yma yng Nghymru, mae gennym ddigon o blastig gwastraff a allai fynd tuag at greu adnoddau cymunedol, yn hytrach na chael eu taflu! Beth am greu mainc neu blannwr ar gyfer eich gardd mewn pryd ar gyfer yr haf?

 

 

Yma yn TPAS Cymru, rydym yn deall y bydd mwyafrif y bobl yn eu tai gyda'u plant am yr wythnosau nesaf, felly dyma ychydig o ffyrdd hwyliog i'w diddanu a'u haddysgu ar beryglon gwastraff diangen.

Ydych chi eisiau mwy o erthyglau fel hyn? Oes gennych CHI unrhyw syniadau i ni eu trafod? Rhowch wybod i ni!

 

Arhoswch yn ddiogel, ac ailgylchwch!

 

 

 

Create your own survey at doopoll.co