Beth yw Cyfranogiad Tenantiaid? White Line
Click Here Mae cyfranogiad Tenantiaid a Phreswylwyr yn golygu bod pobl leol yn cael llais gwirioneddol yn y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu cartrefi a’u cymunedau. Caiff ei weld yn gynyddol fel rhan hanfodol o reoli tai gan y Llywodraeth, Awdurdodau Lleol, Cymdeithasau Tai, Sefydliadau Tai a thenantiaid eu hunain.


Click Here Datblygodd Cyfranogiad Tenantiaid yng Nghymru o frwydr gan sefydliadau tenantiaid i leisio eu barn. Heddiw, mae dros 300 o grwpiau tenantiaid annibynnol yng Nghymru yn gweithio mewn partneriaeth â'u landlordiaid ar faterion tai a chymunedol ehangach.
Byddwch yn gweld grwpiau tenantiaid o bob lliw a llun, yn amrywio o grwpiau yng Ngogledd Cymru sy'n dwyn ynghyd 10 o deuluoedd i stadau enfawr o filoedd o dai yn ninasoedd a chymoedd y de. Mae grwpiau o denantiaid cyngor a pherchen ddeiliaid, grwpiau cymdeithasau tai a grwpiau sy'n cyfuno'r tri.

 
Mae cyfranogiad tenantiaid yn ffordd y mae tenantiaid a landlordiaid yn rhannu syniadau. Mae'n ffordd i'r tenant gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau a geir yn ystod trafodaethau am wella safon amodau a gwasanaethau tai.

Mae cyfranogiad tenantiaid yn ffordd y mae tenantiaid a landlordiaid yn rhannu syniadau. Mae'n ffordd i'r tenant gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau a geir yn ystod trafodaethau am wella safon amodau a gwasanaethau tai.

Gosododd Deddf Tai Cymru (2014) ofyniad cyfreithiol ar landlordiaid i ddatblygu’n weithredol a chefnogi cyfranogiad tenantiaid. Mae'n rhaid i bob landlord ac awdurdod lleol gael strategaeth cyfranogiad tenantiaid gyda'r nod hirdymor o sicrhau gwelliannau parhaus mewn perfformiad landlordiaid o ran cefnogi a galluogi tenantiaid i gyfranogi.

Mae'r rhan fwyaf o landlordiaid yn awr yn annog eu tenantiaid i gyfranogi trwy ystod o ddulliau a allai gynnwys cylchgrawn tenantiaid, ymateb i arolygon neu fynd i gyfarfodydd. Mae gan y rhan fwyaf o landlordiaid yng Nghymru Swyddog Cyfranogiad Tenantiaid ac mae'n rhan o'u rôl i sicrhau bod tenantiaid yn cyfranogi yn y sefydliad. Bydd landlordiaid yn aml yn darparu mannau cyfarfod, yn helpu gyda theipio a chopïo, trefnu hyfforddiant, ac yn gynyddol, darparu cyllid blynyddol i ganiatáu i grwpiau gyflawni eu gwaith yn annibynnol.

Mae llawer o Awdurdodau Lleol yn annog yr amrywiol Gymdeithasau Tenantiaid a Phreswylwyr i ddod ynghyd mewn Ffederasiynau. Yng Nghymru ceir Ffederasiynau yng Nghaerdydd, Sir Gaerfyrddin, Sir Ddinbych, Sir Benfro, Rhondda Cynon Taf, Wrecsam a Bro Morgannwg.