Gweminarau am ddim
Ychydig iawn o arbenigedd technegol sydd ei angen ar weminarau i fynychu a chymryd rhan.
Dim ond porwr gwe safonol sydd ei angen arnoch chi. NID OES angen i chi gael camera na meicroffon arbennig.
Cofrestrwch trwy ffurflen ar-lein syml ac anfonir dolen ymuno atoch. Cliciwch ar y ddolen honno ar yr amser cywir ac rydych chi i mewn i'r weminar.
Arolwg Tenantiaid Cymru Gyfan ar Covid-19: beth oedd y negeseuon allweddol gan denantiaid?
Dydd Iau 16 Ebrill – 10am (35 munud)
Trwy ein cymuned arolwg ar-lein ‘Pwls Tenantiaid’, mae dros 350 o denantiaid wedi rhoi eu barn ar sut maent yn teimlo, eu pryderon a’r hyn sydd ei angen arnynt gan eu landlord a Llywodraeth Cymru. Dyluniwyd y baromedr hwn o sut mae tenantiaid yn teimlo i gefnogi landlordiaid a Llywodraeth Cymru i ymateb i bryderon allweddol cyfredol tenantiaid.
Darganfyddwch beth oedd y negeseuon allweddol o ganlyniadau'r arolwg a beth mae'n ei olygu i chi a'ch sefydliad landlord.
Noder: Bydd recordiad ar-lein o'r weminar, yr adroddiad a'r sleidiau ar gael gan TPAS Cymru
Cyfathrebu efo tenantiaid yn ystod argyfwng: 10 peth i feddwl amdanynt.
Dydd Iau 23 Ebrill – 10am (45 munud) - sesiwn yn llawn
Mae cyfathrebu â thenantiaid wedi bod yn flaenoriaeth allweddol i landlordiaid cymdeithasol yn ystod yr argyfwng coronafirws presennol. Wrth i'r argyfwng barhau i effeithio ar fywydau tenantiaid ac ar y gwaith a wneir gan landlordiaid, sut y gall cyfathrebu barhau i fod yn effeithiol.
Yn seiliedig ar gyfathrebu a welsom ar draws y sector a mewnwelediad tenantiaid o'n harolwg helaeth diweddar o denantiaid ledled Cymru, byddwn yn rhannu rhai meddyliau a syniadau hanfodol gyda chi.
Noder: Bydd recordiad ar-lein o'r weminar, yr adroddiad a'r sleidiau ar gael gan TPAS Cymru
Tenant Graffu: a ellir ei wneud o bell?
Dydd Iau 30 Ebrill – 10am (45 munud)
Wrth i gyfarfodydd go iawn a chysylltiad wyneb yn wyneb gael ei oedi, a ellir addasu gwaith tenant graffu i'w wneud o bell? Ymunwch â ni yn y weminar hon i archwilio syniadau ac opsiynau i gefnogi gwaith craffu ar hyn o bryd.
Diddordeb? Cofrestrwch yma ar y weminar ar Graffu
Cyllido Torfol: Beth sydd angen i chi wybod
Dydd Iau 7 Mai – 2pm (40 munud)
Mae cyllido torfol yn ffordd mor bwysig o godi arian ar gyfer prosiectau trwy godi cyfraniadau bach gan nifer fawr o bobl. Mae angen hyn nawr yn fwy nag erioed ar brosiectau cymunedol. Gall hefyd ysbrydoli'ch cymuned yn ystod y pandemig hwn.
Noder: Cynhaliwyd y weminar hon yn wreiddiol 3 mis yn ôl (Chwefror 20) ond mae wedi cael ei ddiwygio gydag enghreifftiau pandemig Covid-19 newydd. Byddwn yn edrych ar: Modelau gwahanol; gan gynnwys manteision ac anfanteision, enghreifftiau gwych, awgrymiadau da ar gyfer llwyddo, pa blatfform sy'n iawn i chi; gan gynnwys costau.
Diddordeb? Cofrestrwch yma ar y weminar ar Gyllido Torfol
Rhannu'r pethau cadarnhaol: gweithredu cymunedol a gwytnwch yn ystod y cyfnod cloi
Dyddiad: i'w gadarnhau
Yr Adolygiad Tai Fforddiadwy:
Beth sydd angen i chi ei wybod
Dyddiad: i'w gadarnhau