(1).png)
Wrth inni orffen ein hwythnos Iechyd a Diogelwch, rydym wedi dwyn ynghyd ddeg o'r pwyntiau allweddol a rannwyd gan ein siaradwyr:
-
Pwysleisiodd Gill Kernick, awdur “Catastrope and Systemic Change: Learning from the Grenfell Fire and other Disasters” pwysleisiodd nad oeddem yn dysgu o drychinebau oherwydd ein bod yn defnyddio dull tameidiog yn hytrach na chanolbwyntio ar newid systematig. Yn ôl Gill, mae ymgysylltu â phreswylwyr yn tueddu i fod yn ddull tameidiog - mae angen i ni gymryd camau i newid hyn.
-
Cyflwynodd Mike Corrigan o Lywodraeth Cymru ei rôl fel Rheolwr Polisi Diwygio Preswylwyr. Bydd y rôl yma yn sicrhau bod gan breswylwyr lais wrth lunio Diogelwch Adeiladau; nid fel ymarfer blwch ticio symbolaidd, ond mewn ffordd sy'n ystyrlon fel bod tenantiaid yn gwybod eu hawliau a'u cyfrifoldebau.
-
Cododd pwysigrwydd partneriaethau dro ar ôl tro dros yr wythnos, yn benodol arwyddocâd partneru â thimau Achub Tân, sicrhau negeseuon cyson ar draws gwahanol siroedd a brandio ar y cyd â Chymdeithasau Tai ac Awdurdodau Lleol.
-
Mae Tai Cymunedol Cymru wedi datblygu fframwaith sy'n cefnogi cymdeithasau tai i gyflawni a chynnal agwedd dryloyw tuag at faterion iechyd a diogelwch gyda'u preswylwyr. Y nod yw sicrhau ymatebolrwydd a grymuso tenantiaid mewn materion Iechyd a Diogelwch.
-
Canolbwyntiodd Cymdeithas Tai Phoenix ar Les, nid dim ond Iechyd a Diogelwch pan ddatblygwyd eu model ar gyfer cynnwys tenantiaid. Maent yn ariannu cyrsiau achrededig yn llawn ar gyfer tenantiaid ac yn eu hysbysebu trwy'r pwyllgor iechyd a diogelwch. Mae tenantiaid a staff Phoenix yn credu bod eu llwyddiant yn gysylltiedig â pherthnasoedd a diwylliant ymddiriedol y sefydliad.
-
Rhannodd Cartrefi Stockport eu strategaeth cyfranogiad o ran ôl-ffitio chwistrellwyr. Maent yn sicrhau bod pob penderfyniad a wnânt yn cynnwys tenantiaid, trwy fanteisio ar gymunedau a bwydo'r canlyniadau yn ôl bob amser. Fe wnaethant ddatblygu cyfres o ffeithluniau ar gyfer y rhai ag oedran darllen is ac ar gyfer y rhai nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf.
-
Rhai pwyntiau dysgu allweddol i'r rhai sy'n datblygu marchnata a chyfathrebiadau. Edrychwch ar wahanol arddulliau a mecanweithiau dysgu. Edrychwch ar eich dadansoddeg Google a gweld pa denantiaid nad ydych yn eu cyrraedd a gofynnwch i'ch hun ‘sut y gallwn eu cyrraedd’. Peidiwch â bod ofn rhoi cynnig ar ddulliau newydd fel TikTok ac anfon negeseuon fideo i denantiaid. Yn olaf, peidiwch ag anwybyddu'r rhai sydd wedi'u gwahardd yn ddigidol, ewch allan, byddwch gyda'ch trigolion, gwnewch alwad ffôn; gwnewch beth bynnag sydd angen i chi ei wneud i gadw tenantiaid yn rhan o'r penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau.
-
Adborth a beirniadaeth yw eich asedau mwyaf. Peidiwch â bod ofn hyn. Mae gan landlordiaid gyfrifoldeb i roi sicrwydd i denantiaid felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dangos sut rydych chi'n defnyddio'r adborth hwnnw.
-
Mae'r Papur Gwyn ar gyfer Diogelwch Adeiladu yn nodi'r angen am newid diwylliannol eang a phwysigrwydd atebolrwydd. 3 maes allweddol yw 1) Y strategaeth Ymgysylltu â Phreswylwyr y dylid ei theilwra i anghenion tenantiaid 2) Mae'r broses gwynion a'r gweithdrefnau yn addas at y diben a 3) Cyfrifoldebau tenantiaid i sicrhau bod pawb yn gofalu am ei gilydd.
-
Mae cyd-ddylunio gwybodaeth a rhannu gwybodaeth fel bod tenantiaid yn teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi yn elfen allweddol o lwyddiant. Er enghraifft, cyhoeddi gwybodaeth cydymffurfio gan ddefnyddio ffeithluniau. Mae angen i ni feddwl am ‘Gyfathrebu Argyfwng’ er enghraifft, fideo gan yr arweinydd Iechyd a Diogelwch neu Brif Weithredwr i dawelu meddwl tenantiaid. Rhaid i hyn fod yn amserol, yn agored ac yn dryloyw. Rhaid i landlordiaid fod yn ymwybodol o deimladau tenantiaid yn ymwneud â materion iechyd a diogelwch a gallant greu botwm clicio amlwg ar y wefan i roi gwybod am bryderon iechyd a diogelwch.
Hoffem ddiolch i'n noddwyr FireAngel a'n holl siaradwyr gwadd am rannu mewnwelediadau mor werthfawr.
Cadwch lygad ar ein tudalen digwyddiadau am ein digwyddiadau, hyfforddiant a gweminarau sydd ar y gweill.