Ail Adroddiad Arolwg Tenantiaid Blynyddol Cymru Gyfan – Yr hawl i deimlo'n ddiogel ac yn gynnes
.jpg)
Mae ein hadroddiadau Pwls Tenantiaid yn cynnig cipolwg ar feddyliau a chanfyddiadau tenantiaid ledled Cymru ac mae'r adroddiad hwn yn adlewyrchu hynny. Mae ein Hail Arolwg Tenantiaid Blynyddol yn adlewyrchu lleisiau tenantiaid ym mhob sir yng Nghymru ac o ystod eang o gefndiroedd.
Credwn fod y canfyddiadau a’r argymhellion yn cynnig cipolwg gwerthfawr ar yr heriau y mae tenantiaid yn eu hwynebu ar hyn o bryd, a sut mae tenantiaid yn teimlo ac yn ymateb i’r argyfwng costau byw, ynni a fforddiadwyedd presennol.
Pwls Tenantiaid yw panel swyddogol Cymru gyfan ar gyfer tenantiaid sy’n rhoi eu barn ar y pethau sy’n bwysig iddyn nhw. Cafodd ei greu 5 blynedd yn ôl gan TPAS Cymru (o dan raglen waith a gefnogir gan Lywodraeth Cymru). Mae’n cael ei redeg bob chwarter ar faterion cyfoes i helpu i lunio polisi tai yng Nghymru. Mae'n cynnwys tenantiaid tai cymdeithasol (Cymdeithasau Tai a thai Cyngor) yn ogystal â rhentwyr preifat a'r rhai mewn tai â chymorth.
Os ydych yn denant, beth am ymuno â'n panel Pwls Tenantiaid a dweud eich dweud?
Enw'r Adroddiad: Ail Arolwg Tenantiaid Blynyddol Cymru Gyfan - Yr hawl i deimlo'n ddiogel ac yn gynnes
Dyma'r ddolen i'r adroddiad llawn
Am drosolwg cyflym, dyma'r datganiad swyddogol i'r wasg
Awduron Arweiniol: David Wilton a Eleanor Speer
Hoffai TPAS Cymru ddiolch i'r holl denantiaid a roddodd o'u hamser i gwblhau'r arolygon. Rydym wir yn gwerthfawrogi eich amser.
Mae Pwls Tenantiaid yn rhan o'n gwaith Llais y Tenant a noddir gan 
Enillwyr y raffl oedd:
-
Sue Carleton - Tenant Tai Taff
-
Yvonne McCarroll - Tenant Cyngor Wrecsam
-
Marian Hart - Tenant Preifat o Sir Gâr