Y cyfan sydd angen i chi ei wybod i roi cychwyn ar yr opsiwn codi arian yma.

 

Canllaw i Tap to Donate / Cyfrannu Arian Ar-lein

Mae rhai yn ei alw'n ‘Tap to Donate’ …..eraill yn  ‘Rhoddion Digyswllt’…. rydyn ni'n ei alw'n ddyfodol ar gyfer codi arian cymunedol.

Mae "Tap to Donate” yn ddyfais electronig arunig gyda phwynt talu digyswllt wedi'i hymgorffori ynddo. Gallant fod yn gludadwy neu'n statig, gydag opsiynau ar gyfer brandio a negeseuon ychwanegol os y dymunir.

Mae'r dyfeisiau hyn yn wahanol i derfynellau digyswllt manwerthu cyffredin, gan nad oes angen gweithredwr dynol arnynt.

Mae rhoddion digyswllt yn ddelfrydol i'w ddefnyddio mewn amgylcheddau dan do ac awyr agored, gyda ac heb oruchwyliaeth, amgueddfeydd ac orielau, ysbytai, y stryd fawr, digwyddiadau, siopau elusennol, tafarndai, gwestai bach, ysgolion a llawer mwy. Os ydych chi'n ymwneud ag unrhyw sefydliad cymunedol mae angen i chi ystyried hyn.

Diddordeb? Eisiau gwybod mwy? Mae gennych 3 adnodd am ddim.

  1. Gweler copi o'r weminar sydd ar ein sianel Youtube . Rydym wedi tocio'r cyflwyniad a'r sesiwn caeedig o'r recordiad byw er mwyn rhoi ffocws ar y deunydd allweddol. Dim ond 23 munud felly pam lai?     
  2. Pam na wnewch chi lawr lwytho ein canllaw rhad ac am ddim ar roi cychwyn arni gyda Tap to Donate/Rhoddion Digyswllt gydag esiamplau, pethau allweddol i'w hystyried a chrynodeb o'r ffioedd a godir gan gyflenwyr allweddol? 
  3. Gweler copi PDF o'r cyflwyniad a ddefnyddiwyd yn y gweminar. Noder: Nid yw'n golygu llawer heb y nodiadau a'r sylwadau. 

Fel arfer, os hoffech drafod mewn mwy o fanylder neu eisiau ei rannu â grŵp cymunedol, cysylltwch â David Wilton at TPAS Cymru.

David Wilton, Prif Weithredwr, TPAS Cymru

O.N. Hoffai David ddiolch i Tim a ysbrydolodd y syniad, ac i Amelia a wnaeth yn bosibl gydag ymchwil ragorol