Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol TPAS Cymru
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae TPAS Cymru wedi cynnal eu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) yn ein Cynhadledd Flynyddol, tua chanol mis Tachwedd. Oherwydd Covid-19 ni allwn wneud hyn. Mae'r Bwrdd wedi trafod a byddwn yn cynnal ein CCB ar-lein ar 17 Tachwedd 2020 am 11am
Opsiynau ymuno
Bydd yn cael ei gynnal trwy blatfform Zoom Webinar (yn wahanol i Zoom Pro Meeting ond yn ddelfrydol ar gyfer hyn). Mae Zoom Webinar yn gallu dal 99 o westeion, felly rydym yn cadw'r hawl i gapio rhifau gan un aelod landlord os oes angen, i ganiatáu i gynulleidfa ehangach fynychu.
Byddwn yn ei ffrydio'n fyw ar YouTube ar gyfer y rhai nad ydyn nhw eisiau ymuno â'r prif gyfarfod ar Zoom. Os ydych chi'n dymuno mynychu trwy YouTube, peidiwch â chofrestru trwy'r ddolen Zoom, yn hytrach rhowch wybod i ni sut i gael y cyfarwyddiadau ymuno [email protected]. Mae'r opsiwn hwn yn caniatáu i gyfranogwyr arsylwi'r CCB ac os oes ganddynt gyfrif Google gallant wneud sylwadau arno trwy sylwadau YouTube. Yn ystod y digwyddiad byw, bydd oediad o tua 20 eiliad rhwng y CCB go iawn, a'r llif Byw. Dim ond trwy YouTube y gall y rhai sy'n gwylio ar YouTube wneud sylwadau, ac ni allant ryngweithio'n uniongyrchol â mynychwyr gweminar eraill. Mae'r un peth yn wir am fynychwyr gweminar hefyd. Bydd TPAS Cymru yn monitro sylwadau ar YouTube ac yn ceisio bwydo sylwadau i'r Cadeirydd yn ystod y CCB.
P'un a ydych chi'n ymuno â'r brif ystafell trwy Zoom neu'n arsylwi trwy YouTube, bydd pawb sy'n bresennol yn gallu rhyngweithio a phleidleisio trwy ein teclyn ymgysylltu Doopoll.
Yr Agenda:
-
Croeso agoriadol ac anerchiad gan y Cadeirydd, Bill Hunt
-
Adroddiadau
-
Adroddiad Blynyddol gan David Wilton
-
Adroddiad Cylld gan Jane Broad
-
Diweddariad Llywodraethol gan y Cadeirydd a chyflwyno aelodau newydd y Bwrdd
-
Diweddariad Covid-19 ar ein digwyddiadau a gweithgareddau – David Lloyd
-
Sesiwn Cwestiwn ac Ateb 15 munud wedi'i gadeirio gan ein Is-gadeirydd, Victoria Miller
-
Cau yn ffurfiol a diolch - Cadeirydd
Nodiadau ar gyfer mynychwyr
-
Mae fersiwn hawdd ei darllen o'r Agenda ar gael yma
-
Gellir cyflwyno cwestiynau i'r Bwrdd ymlaen llaw trwy [email protected]
-
Hefyd, bydd gwesteion yn cael cyfle i gyflwyno cwestiynau trwy ffurflen gofrestru
-
Os ydych chi'n dymuno cymryd rhan mewn unrhyw bleidleisiau neu ddangos dwylo, byddwn ni'n defnyddio Doopoll i bleidleisio yn y sesiwn. Byddwn yn egluro ar ddechrau'r CCB (mae'n syml), ond bydd angen i chi gael mynediad at borwr rhyngrwyd. Os nad ydych chi'n gyfarwydd â phleidleisio ar-lein / rhoi adborth rydym wedi gwneud dolen brawf yma http://doo.vote/agmtest (llai nag 1 munud i rhoi cynnig arni)
Dylid cofrestru trwy'r dolen yma https://us02web.zoom.us/webinar/register/WN_vzE6DL1fSAu7yPPhLxs67A
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yn y CCB.
Bill Hunt, Cadeirydd
David Wilton, Ysgrifennydd y Cwmni