O ystyried y lefel heintiad Covid parhaus, a'n haelodaeth Cymru gyfan, mae Bwrdd TPAS Cymru wedi cytuno i gynnal ein CCB ar-lein ar 14 Rhagfyr 2021 am 11am

Cyhoeddi Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol TPAS Cymru

O ystyried y lefel heintiad Covid parhaus, a'n haelodaeth Cymru gyfan, mae Bwrdd TPAS Cymru wedi cytuno i gynnal ein CCB ar-lein ar 14 Rhagfyr 2021 am 11am. Mae hyn yn cynnwys y cyfnod 1 Ebrill 2020 - 31 Mawrth 2021. Mae'n agored i denantiaid a staff tai aelod-sefydliadau a gwesteion gwahoddedig. 

Sut mae mynychu?
Bydd yn cael ei gynnal dros Gweminar Zoom.

Gellir cofrestru drwy’r ddolen yma: https://us02web.zoom.us/webinar/register/WN_RRD8-PnvSnCBrXOyLYyY7w

Os na allwch ddefnyddio Zoom ac yn dymuno holi am unrhyw opsiynau ffrydio amgen, cysylltwch â ni ymlaen llaw.

Diben

Mae CCB yn gyfle i graffu a dysgu mwy gan y Bwrdd a staff TPAS Cymru. Ein nod yw cyfuno cymysgedd o'r adroddiadau ffurfiol gofynnol gyda chyfle i gael gwrandawiad a gofyn cwestiynau am ein gwaith. Bydd hefyd:

Yr Agenda:
  • Croeso agoriadol ac anerchiad gan y Cadeirydd, Bill Hunt
  • Adroddiadau
    • Adroddiad Blynyddol gan David Wilton
    • Adroddiad Cyllid gan David Wilton a Jonathon Lee
  • Diweddariad y Bwrdd gan y Cadeirydd
  • Diweddariad gwasanaethau a’ch barn chi ar flaenoriaethau’r flwyddyn nesaf - David Lloyd
  • Sesiwn Cwestiwn ac Ateb 15 munud wedi’i gadeirio gan Is-gadeirydd, Victoria Miller
  • Cau’n ffurfiol a diolchiadau - Cadeirydd
Nodiadau i'r mynychwyr
I gofrestru i fynychu a derbyn cyfarwyddiadau ymuno

 

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yn y cyfarfod.

Bill Hunt, Cadeirydd
David Wilton, Ysgrifennydd y Cwmni