Darganfod mwy am y gwaith ysbrydoledig a'r llwyddiannau ledled Cymru.  

Enillwyr Gwobrau Arfer Da 2023: Darganfod mwy am y gwaith ysbrydoledig a’r llwyddiannau ledled Cymru.  

Cawsom ein syfrdanu gan yr holl gyflwyniadau ysbrydoledig a gwych a gawsom ar gyfer ein Gwobrau Arfer Da 2023 ac roeddem eisiau rhannu gwaith anhygoel yr enillwyr gyda chi. 

Eleni, roeddem wrth ein bodd i fod yng Nghaerdydd unwaith eto gyda thenantiaid, staff a gweithwyr proffesiynol o bob rhan o Gymru i ddathlu a rhannu rhywfaint o’r arfer da hwn ac i gefnogi ac ysbrydoli eraill.
 
Cyhoeddwyd enillwyr ac enwebeion 2023 yn ein Cinio Gala a Seremoni Wobrwyo yng Ngwesty Leonardo, Caerdydd ar 5 Gorffennaf 2023.
 

Y categorïau ar gyfer 2023 oedd: 

1. Cymunedau'n Cefnogi Cymunedau
2. Cynnwys Tenantiaid mewn Llunio Gwasanaethau
3. Cyfathrebu â Thenantiaid a Phreswylwyr
4. Tîm Tenantiaid y Flwyddyn
5. Ymgysylltu â Thenantiaid o ran Sero Net 
6. Rhaglen Cymorth / Cyngor i Breswylwyr
7. Llais y Tenant
8. Tenant y Flwyddyn
 
Rhoddwyd Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig hefyd gan y beirniaid.
 

Rydym wedi llunio'r adroddiad canlynol y gellir ei lawrlwytho i rannu dysgu ac ysbrydoli eraill:  

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi rhagor o wybodaeth am bob un o’r 9 cynnig buddugol a 3 Uchaf y beirniaid ym mhob categori.
 
Diolch i holl enwebwyr gwobrau eleni am ddarparu cynnwys yr adroddiad hwn. Rydym wedi ychwanegu eu manylion cyswllt ar gyfer pob un o'r cynigion buddugol os hoffech gael gwybod mwy am y prosiectau.
 

Hoffem hefyd ddiolch i Lywodraeth Cymru am ariannu’r digwyddiad yn rhannol ac rydym yn arbennig o ddiolchgar i’n noddwyr, Tai Wales & West. Diolch!  

Logo, icon, company nameDescription automatically generated

 

Diolch unwaith eto ac edrychwn ymlaen at eich gweld mewn digwyddiad TPAS Cymru yn fuan.