Unwaith eto eleni, bydd y Seremoni Wobrwyo yn cael ei gynnal yn ystod Cinio Gala gyda'r nos, gan ei wneud yn ddathliad go iawn

Gwobrau Arfer Da Cenedlaethol TPAS Cymru 2022

6 Gorffennaf 2022 – Gwesty Jury’s Inn, Caerdydd: 6pm - 10pm (gyda disgo i orffen y noson)

Unwaith eto eleni, bydd y Seremoni Wobrwyo yn cael ei gynnal yn ystod Cinio Gala gyda'r nos, gan ei wneud yn ddathliad go iawn.

Gwelwn y digwyddiad hwn fel “Oscars” y byd Cyfranogiad, lle’r ydym yn dathlu ac yn cydnabod bod cyfranogiad yn newid gwasanaethau tai a chymunedau er gwell. Mae’r Gwobrau Arfer Da yn rhoi cyfle i ni gydnabod hyn a dathlu’r gwaith caled y mae landlordiaid a thenantiaid yn ei wneud.  Dengys fod y gwaith yn fuddiol ac mae’n rhoi ysgogiad i ni roi cais ar syniadau arloesol sydd wir yn gweithio!   Mae’r digwyddiad hefyd yn caniatáu i TPAS Cymru gyhoeddi a rhannu arferion da, y dysg a’r profiadau o Gymru benbaladr.

Bydd y Seremoni heno dan ofal Jess Davies. Mae Jess yn gyflwynydd ac yn ymgyrchydd Cymraeg o Gaerdydd. Mae hi wedi gweithio gyda darlledwyr a chyhoeddwyr blaenllaw gan gynnwys y BBC, S4C a Bauer Media. Yn ddiweddar cyflwynodd Jess raglen ddogfen ar gyfer BBC Three yn ymchwilio i Gam-drin Rhywiol ar Sail Delwedd ac mae wrthi’n ffilmio ei hail raglen ddogfen ar gyfer y sianel. Mae Jess yn ymgyrchydd angerddol dros hawliau merched a chydraddoldeb ac mae’n defnyddio ei llwyfan cyfryngau cymdeithasol mawr i godi ymwybyddiaeth o faterion sy’n agos at ei chalon

Os ydych wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr, gallwch archebu eich lle drwy lawrlwytho a dychwyd y ffurflen archebu yma.

Yn ogystal, yn ystod y dydd, byddwn yn cynnal ein Cynhadledd Undydd ar Greu Cymunedau Gwych.  Bydd hwn yn ddigwyddiad ffantastig yn rhannu astudiaethau achos a syniadau ymarferol.  Ceir rhagor o fanylion am y gynhadledd undydd ar ein tudalen digwyddiadau yma.