Mis ar Thema Symud Ymgysylltiad Tenantiaid yn ei Flaen
Wrth inni ddod allan o gyfyngiadau'r pandemig, addasu i ffyrdd newydd o weithio ac ymateb i ddisgwyliadau esblygol i wella llais tenantiaid, sut gall y sector tai symud ymgysylltiad tenantiaid yn ei flaen?
Yn ystod mis Gorffennaf byddwn yn cynnal rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau arloesol i helpu landlordiaid a thenantiaid i archwilio materion sy'n dod i'r amlwg ac archwilio cyfleoedd.
7 Gorffennaf: 10.30am – 12pm
Rhwydwaith Swyddogion (Aelodau TPAS Cymru yn unig)
Bydd Rhwydwaith Swyddogion mis Gorffennaf yn rhoi cyfle ichi rannu eich meddyliau a'ch profiadau am y mathau o ddigwyddiadau tenantiaid rydych chi'n eu trefnu wrth i gyfyngiadau gael eu codi.
Rhagor o fanylion yma: https://www.tpas.cymru/rhwydwaith-swyddogion-gorffennaf
12 Gorffennaf: 11am – 12.30pm
Symud ymgysylltiad tenantiaid yn ei flaen - barn o bob rhan o Brydain Fawr
Beth yw'r disgwyliadau a'r ysgogwyr?
Beth yw'r cyfleoedd a'r syniadau ar gyfer symud ymlaen?
Cewch glywed am dueddiadau ac arferion cyfredol.
Cewch glywed gan: Jenny Osbourne – TPAS Lloegr, Lesley Baird - TPAS yr Alban a David Wilton - TPAS Cymru
Rhagor o fanylion yma: https://www.tpas.cymru/symud-ymgysylltiad-tenantiaid-yn-ei-flaen-barn-o-bob-rhan-o-brydain-fawr
15 Gorffennaf: 10am – 12noon
Y 10 mater allweddol y mae angen i denantiaid fod yn rhan ohonynt wrth symud ymlaen
Sesiwn cyflym yn llawn syniadau i feddwl amdanynt ynghyd â chyfle i rwydweithio â sefydliadau eraiGan ddefnyddio mewnwelediad gan Lywodraeth Cymru, y sector ac o'n rhwydweithiau ledled y DU, byddwn yn rhannu'r materion allweddol y mae'n rhaid i denantiaid ymgysylltu â nhw wrth symud ymlaen.
Rhagor o fanylion yma: https://www.tpas.cymru/y-10-mater-allweddol-y-mae-angen-i-denantiaid-fod-yn-rhan-ohonynt-wrth-symud-ymlaen
20 Gorffennaf: 11am -12.30pm
Rhwydwaith Tenantiaid
Sut olwg sydd ar ddyfodol Cyfranogiad Tenantiaid? Mae'r rhwydwaith hwn yn rhoi cyfle i denantiaid rannu eu meddyliau a'u syniadau ar gyfer y dyfodol trwy edrych ar ffyrdd ymarferol o sicrhau bod dull cyfunol yn gweithio i bawb!
Rhagor o fanylion yma: https://www.tpas.cymru/rhwydwaith-tenantiaid-sut-olwg-sydd-ar-ddyfodol-cyfranogiad-tenantiaid