Yr adroddiad hwn yw ein Harolwg Tenantiaid Cymru Gyfan Flynyddol gyntaf ar Ganfyddiadau Tenantiaid sy'n archwilio barn tenantiaid ar eu cartrefi, eu cymunedau a'r materion sy'n wirioneddol bwysig iddynt

Llais Tenantiaid Cymru Gyfan: Rhifyn 1: Mae’r Pethau Sylfaenol yn Cyfrif

Ein hadroddiad diweddaraf yw Arolwg Tenantiaid Cymru Gyfan Flynyddol cyntaf TPAS Cymru ar Ganfyddiadau Tenantiaid sy’n archwilio barn tenantiaid ar eu cartrefi, eu cymunedau a materion sydd wir o bwys iddynt.

Cawsom y gyfradd ymateb fwyaf hyd yma ar gyfer Pwls Tenantiaid gyda bron i 800 o denantiaid tai cymdeithasol a thenantiaid preifat. Roeddem yn falch iawn o gael demograffig eang o denantiaid, gan gynnwys codiad nodedig yn nifer y rhentwyr preifat iau a ymatebodd.

Credwn fod y canfyddiadau a'r argymhellion yn cynnig mewnwelediad gwerthfawr i'r heriau y mae tenantiaid yn eu profi a sut mae tenantiaid yn teimlo am eu cartrefi a'u cymunedau.

Pwls Tenantiaid  yw'r panel swyddogol ledled Cymru ar gyfer tenantiaid sy'n rhoi eu barn ar y pethau sy'n bwysig iddyn nhw. Fe’i crëwyd 4 blynedd yn ôl gan TPAS Cymru o dan raglen o waith a gefnogir gan Lywodraeth Cymru. Mae'n rhedeg bob chwarter ar faterion amserol ac yn helpu i lunio polisi tai yng Nghymru. Mae'n cynnwys tenantiaid tai cymdeithasol (Cymdeithasau Tai a thai Cyngor) ynghyd â rhentwyr preifat gan gynnwys myfyrwyr a'r rheini mewn tai â chymorth.

Os ydych yn denant, pam na wnewch chi ymuno â’n panel Pwls Tenantiaid a chael dweud eich dweud

Enw’r Adroddiad: LLAIS TENANTIAID CYMRU GYFAN FLYNYDDOL: RHIFYN 1 – MAE’R PETHAU SYLFAENOL YN CYFRIF

Gweler yr Adroddiad Llawn yma

Gweler y Grynodeb Weithredol yma

Awduron Arweiniol: David Wilton ac Elizabeth Taylor

Hoffai TPAS Cymru ddiolch i'r holl denantiaid a roddodd eu hamser i gwblhau'r arolygon. Rydym wir yn gwerthfawrogi eich amser.

Mae Pwls Tenantiaid yn rhan o'n gwaith Llais Tenantiaid a noddir gan  

Gadewch i ni drafod

Bu i ni gynnal digwyddiad briffio amser cinio AM DDIM ar ddiwrnod y lansiad i drafod y canfyddiadau. 

Mae recordiad ar-lein o’r weminar ar gael i aelodau o’n tudalen ‘Wedi Methu Allan, Daliwch i Fyny’ ar ein gwefan.

Pam na wnewch chi gael golwg ar ein hadroddiadau blaenorol

Tryloywder y Gwobr Raffl

Fel diolch am gwblhau'r arolwg, gall tenantiaid ddewis i geisio am wobr raffl. Mae'r data hwn yn cael ei ddal ar wahân i'r arolwg dienw.

Yr enillwyr ar gyfer y Pwls hwn yw:

  1. Angharad, Rhentwr Preifat o Ynys Môn - £75 taleb One4All. 
  2. Gemma, tenant Cyngor Bro Morgannwg - £75 taleb One4All. 

Fe'u hysbyswyd a bydd eu gwobrau'n cael eu hanfon yn fuan.