Pwy yw Platfform?
Yn gweithredu yng Nghymru am y 30 mlynedd diwethaf dan yr enw Gofal, mae Platfform o dan ei enw newydd wedi ail-ddyfeisio eu hunain yn llwyr fel sefydliad. Wedi ail-frandio eu hunain fel Elusen Iechyd Meddwl a Newid Cymdeithasol gyda dyluniad llawer mwy modern - o’u logo, gwefan a hyd yn oed cyfryngau cymdeithasol. Fodd bynnag, mae llawer mwy i'r trawsnewidiad na dyluniad ffres, modern a newid enw ….
Maent wedi lansio adnodd digidol newydd o’r enw ‘Platfform i Bobl Ifanc’ ac fel ysgrifennwr cysylltiol i TPAS Cymru, gofynnwyd i mi ei adolygu. Yr hyn sy'n fwyaf diddorol i mi am Platfform yw eu bod wedi dewis canolbwyntio ar ddull wedi’i lywio gan drawma tuag at wasanaethau. Yn hytrach na chanolbwyntio ar yr hyn sy’n ‘bod’ ar rywun, mae’r dull hwn yn edrych ar brofiadau unigolyn, yr hyn a gyfrannodd atynt a sut i ddefnyddio eu lleisiau i helpu i newid y ffordd y darperir gwasanaethau cyhoeddus.
Roedd yn ddiddorol i mi fod Platfform yn cael y newid sylfaenol hwn. Rwy'n credu bod diffyg y dull hwn yn y gorffennol wedi cyfrannu at rai o'm profiadau drwg i o ran gwasanaethau cymorth, yn enwedig tai. Felly mae'r ffaith eu bod wedi gwneud hyn yn genhadaeth iddynt, yn rhoi gobaith i mi fod pethau'n newid.
Ble mae Tai yn dod i mewn iddo?
Gall sawl elfen o dai effeithio ar Iechyd Meddwl tenant. Ansawdd tai, pa mor ymatebol yw gwasanaethau (neu landlordiaid), cyfradd y rhent a chymaint mwy. Trwy ddarparu cartrefi o ansawdd da, gyda gwasanaethau sy'n deall Iechyd Meddwl, a Salwch Meddwl, mae gennych y gallu i newid ansawdd bywyd tenantiaid.
Bu digon o ymchwil i'r cysylltiad rhwng Tai ac Iechyd Meddwl, ond gallaf hefyd siarad o'm profiadau fy hun. Mae gen i Anhwylder Deubegynol ac roeddwn wedi rhentu'n breifat am ddeng mlynedd i gyd, gan symud ddwywaith. Ni theimlais erioed yn ddiogel yn fy nhenantiaethau ac roedd symud tŷ yn straen a gafodd effaith enfawr ar fy iechyd meddwl.
Rwyf wedi bod yn byw mewn tŷ Cyngor ers blwyddyn bellach, mae gen i denantiaeth ddiogel, rhent fforddiadwy, mae gen i’r gwiriadau diogelwch gofynnol a’r gefnogaeth gywir os bydd ei angen arnaf. Rwy'n teimlo'n ddiogel yn fy nghartref. O fewn misoedd o symud i mewn cefais swydd, ac mae fy iechyd meddwl wedi mynd o nerth i nerth. Wrth gwrs, rwy'n dal i gael trafferth yn fy ffyrdd fy hun ond mae cael tŷ diogel a'r gefnogaeth gywir yn golygu y gallaf reoli fy salwch meddwl a byw bywyd normal.
Felly beth yw'r datblygiad newydd hwn? Platfform i Bobl Ifanc
Mae Platfform i Bobl Ifanc yn wefan hwyliog a rhyngweithiol a grëwyd gan, ac ar gyfer, Pobl Ifanc ac mae’n hollol amlwg. Dim byd yn erbyn y genhedlaeth hŷn, ond o’r diwedd, dyma wefan sy’n siarad efo fi! Mae'r wefan yn syml ond yn ymarferol gyda dyluniad ymatebol sy'n ei gwneud hi'n hawdd llywio ar ddyfais symudol, sy'n elfen hanfodol i'r gynulleidfa. Mae yna ddigon o adnoddau ar gael, o flogiau, i restrau chwarae, gweithgareddau a hyd yn oed gemau rhyngweithiol cŵl. O bori trwy'r wefan, mae'n amlwg bod Platfform yn wirioneddol yn greadigaeth organig sydd â'r gallu i estyn allan at bobl ifanc, ac am unwaith ... ymgysylltu â nhw mewn gwirionedd.
Ond nid i Bobl Ifanc yn unig y mae, mae yna ffyrdd i oedolion gymryd rhan. Er enghraifft, mae Flip The Script Friday yn gyfle i oedolion, a hyd yn oed sefydliadau, i ateb cwestiynau sydd gan y bobl ifanc ar eu cyfer, sydd yn syniad gwych yn fy marn i. Wrth dyfu i fyny, un o'r prif faterion a gefais wrth gysylltu â gwasanaethau cymorth oedd diffyg ymddiriedaeth. Mae'r syniad hwn yn galluogi pobl ifanc i ofyn y cwestiynau sydd eu hangen arnynt, gan ymgyfarwyddo â sefydliadau a all eu helpu ac yn y bôn adeiladu'r ymddiriedaeth honno.
Mae Platfform i Bobl Ifanc yn creu gofod croesawgar, gyda'r cyfle i ryngweithio a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau. Mae yna State of Mind er enghraifft, rhaglen lles ar-lein sy'n agored i bawb. Nid ydynt wedi yn cynnwys y pethau hwyliog yn unig, mae digon o weithgareddau strwythuredig megis taflenni gwaith ac awgrymiadau ysgrifennu i gymryd rhan ynddynt.
A fyddwn yn argymell ‘Platfform i Bobl Ifanc’ fel adnodd i eraill?
Heb os nac oni bai! Pan fyddwch chi'n cael ymgysylltiad organig mae'n helpu i ddeall a chreu canlyniadau gwell oherwydd bod pobl yn cymryd rhan oherwydd eu bod nhw eisiau, does dim pwysau.
Mae Plattform wedi creu'r amgylchedd perffaith i ganiatáu i bobl ifanc wneud hyn, ac rydw i yma amdano. Byddwn yn bendant yn argymell Platfform fel adnodd i Bobl Ifanc yn ein rhwydwaith, mae'n rhoi llais i Bobl Ifanc, y cyfle i Denantiaid Ifanc gael llais, ac mae hynny'n bendant yn rhywbeth y gallwn ei gefnogi a'i annog.