Fel rhan o’n cyfres ‘Sbotolau Ar’, eisteddodd y Swyddog Ymgysylltu Eleanor Speer i lawr am sgwrs gyda Scott Tandy, Swyddog Cynhwysiant Digidol Cymdeithas Tai Newydd, i drafod eu menter Ystafell Ddosbarth Barod am Denantiaeth ac effaith y rhaglen cynhwysiant digidol newydd hon ar y sector.

Sbotolau Ar: Y Cwrs Parod am Denantiaeth yng Nghymdeithas Tai Newydd

Fel rhan o’n cyfres ‘Sbotolau Ar’, eisteddodd y Swyddog Ymgysylltu Eleanor Speer i lawr am sgwrs gyda Scott Tandy, Swyddog Cynhwysiant Digidol Cymdeithas Tai Newydd, i drafod eu menter Ystafell Ddosbarth Barod am Denantiaeth ac effaith y rhaglen cynhwysiant digidol newydd hon ar y sector.  I unrhyw un sydd ddim yn gwybod, mae’r cwrs Parod am Denantiaeth yn gwrs byr sydd wedi’i gynllunio i helpu tenantiaid i reoli a byw mewn cartrefi rhent yng Nghymru.

Alli di ddweud wrthym sut y bu i ti gychwyn ymwneud â'r fenter hon?

Cychwynais â Parod  am Denantiaeth ar ddechrau’r pandemig pan na chaniatawyd ymgysylltu wyneb yn wyneb ac roedd Newydd yn chwilio am atebion i barhau i hysbysu ein tenantiaid am eu hawliau a’u cyfrifoldebau fel tenant sy’n byw mewn eiddo Newydd.

Ar ôl ymchwilio i sawl opsiwn, roeddwn i’n meddwl mai Google Classroom fyddai’r ateb gorau, gan fod ysgolion ar y pryd hefyd yn defnyddio’r dull hwn i addysgu disgyblion felly roeddwn i’n meddwl y gallai fod posibilrwydd i unrhyw blant yn y senario hwn gefnogi eu rhieni gyda’r cwrs.

Pwy oedd yn cymryd rhan?

Datblygwyd y cwrs gyda chefnogaeth sawl tîm yn Newydd gan gynnwys y tîm Cymunedol, y tîm Tai a Chynhwysiant Ariannol. Cwblhaodd 250 o denantiaid y cwrs yn ystod y pandemig, ac roedd yr adborth a gawsom yn gadarnhaol iawn.

Roedd y cwrs 30 munud yn ymdrin â phynciau fel eu cytundeb tenantiaeth, cyfrifoldebau tenantiaid a landlordiaid, cynnal a chadw eiddo, cyfrifoldebau ariannol, cyllidebu, a’r cymorth sydd ar gael. Ar ôl cwblhau'r cwis gwybodaeth, cafodd tenantiaid naill ai radd pasio neu fethu ac, i'r rhai a lwyddodd, cynhyrchwyd tystysgrif cyflawniad a'i hanfon allan.

Mae'n swnio fel rhaglen wych ac mae gweld cymaint o denantiaid eisoes wedi cymryd rhan yn wych. A ydych wedi cael unrhyw anawsterau gyda'r broses hyd yn hyn?

Roedd gan y cwrs ei heriau, gan gynnwys y gofyniad am gyfrif Google i gael mynediad i'r ystafell ddosbarth, yn ogystal â'r ffaith nad oedd gan rai denantiaid fynediad i ddyfeisiau digidol neu'r rhyngrwyd felly nid oeddent yn gallu cwblhau'r cwrs.

Gan fod hwn wedi'i lansio yn ystod y pandemig, sut ydych chi wedi diweddaru'r cwrs i adlewyrchu'r materion diweddaraf ym maes tai?

Er mwyn cadw’r cwrs yn gyfredol â’r wybodaeth ddiweddaraf am dai, diweddarais y cynnwys i adlewyrchu Deddf Rhentu Cartrefi Cymru gyda chymorth arbenigwyr yn y diwydiant, gan gynnwys Nathan Williams o Promo Cymru a Gemma Murphy o'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol. Cawsom gymorth hefyd gan arbenigwyr tai yn Newydd, ochr yn ochr â nifer o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig eraill ledled Cymru. Fe wnaethom benderfynu defnyddio Notion fel dewis arall i Google Classroom a Power Automate fel arf i awtomeiddio'r llif gwaith. Mae'r cwrs wedi'i ddiweddaru wedi cael adborth cadarnhaol gan staff mewnol.

Mae’r cwrs wedi bod trwy gymaint o ddatblygiad ers ei lansio, ble hoffech chi fynd ag ef nesaf?

Rydym wedi dechrau gweithio gyda thimau Cymunedol a Thai i'w brofi ymhlith tenantiaid ac yn edrych i gael adborth ar hygyrchedd, cynnwys ac a ydynt yn gweld y cwrs yn fuddiol.

Yn ddiweddar rydym wedi dechrau cynnwys ein tenantiaid ar y cwrs. Ar ôl dilyn i fyny gyda rhai o’r tenantiaid sydd wedi cwblhau’r cwrs, roedd eu pwyntiau adborth allweddol yn cynnwys hawdd i’w gyrchu, hawdd ei llywio, bod y wybodaeth yn hawdd ei darllen a’i deall, bod eu gradd yn weladwy ar unwaith, a darparwyd y dystysgrif ar unwaith, a oedd yn datrys rhai o'r problemau blaenorol a nodwyd gyda Google Classrooms a rhyngweithio staff.

Wrth i ni geisio cyflwyno’r Ystafell Ddosbarth Barod am Denantiaeth i bob tenant o fewn partneriaeth eCymru, bydd y tîm a minnau’n parhau i ofyn am adborth a mynd i’r afael ag unrhyw faterion i wneud y cwrs yn adnodd gwerthfawr i bob tenant. Os hoffech ragor o wybodaeth, ewch i wefannau eCymru a Newydd.

Diolch yn fawr iawn i Scott am ei amser i drafod y Cwrs Dosbarth Parod am Denantiaeth â ni

Mae ein cyfweliad 'Sbotolau Ar' diwethaf ar ein sianel YouTube, a gallwch ei weld trwy ddilyn y ddolen hon