Hoffai TPAS Cymru dalu teyrnged i Bill Hunt sydd wedi rhoi’r gorau i’w swydd yn ddiweddar fel Cadeirydd TPAS Cymru ar ôl 3 blynedd yn y rôl.

Teyrnged i'r Cadeirydd sy'n ymddeol Bill Hunt

Hoffai TPAS Cymru dalu teyrnged i Bill Hunt sydd wedi rhoi’r gorau i’w swydd yn ddiweddar fel Cadeirydd TPAS Cymru ar ôl 3 blynedd yn y rôl.

Fel tenant Cartrefi Conwy daeth i amlygrwydd am ei angerdd a’i ymrwymiad i lais ac ymgysylltiad tenantiaid. Cafodd ei ethol i Fwrdd TPAS Cymru yn 2015.

Yn ystod ei 8 mlynedd o wasanaeth ar fwrdd TPAS Cymru, bu Bill yn rhan weithredol o ddiwygio ein trefniadau llywodraethu a gwasanaethodd hefyd fel Is-Gadeirydd. Cafodd ei ethol yn Gadeirydd o fewn 2 wythnos gyntaf cyfnod clo y pandemig, a oedd yn sicr yn gyfnod heriol i bawb gan gynnwys TPAS Cymru. Roedd ei swyn a'i bwyll yn help mawr i arwain y bwrdd trwy'r amseroedd anodd hynny

David Wilton, Prif Weithredwr TPAS Cymru sy'n arwain y teyrngedau:

"Rwy’n ddiolchgar iawn i Bill am ei ymrwymiad cadarn a diwyro i TPAS Cymru. Ymunais â'r sefydliad tua'r un amser, ac roedd yn eiriolwr llafar dros foderneiddio a diwygio ein llywodraethu. Gweithiodd yn ddiflino i gefnogi ac eiriol dros denantiaid.

Ar lefel bersonol, rwyf wedi mwynhau gweithio gydag ef yn fawr. Mae ganddo egni di-ben-draw a synnwyr digrifwch craff, ac rwyf wedi bod mor ddiolchgar am ei gefnogaeth. Mae cael tenant yn Gadeirydd y sefydliad arweiniol hwn wedi bod mor bwysig wrth i TPAS Cymru esblygu yn ystod y pandemig i ffyrdd newydd o weithio ac ymgysylltu. O ystyried ymrwymiad Bill i wella tai cymdeithasol, nid oeddwn yn synnu felly ei fod wedi’i restru’n ddiweddar fel rhif 42 yn Ysgogwyr Newid 100 Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ": 
 

Ychwanegodd yr Is-Gadeirydd Emma Parcel (tenant POBL):

"Yn ystod fy amser fel aelod bwrdd ac fel Is-Gadeirydd, mae Bill wedi bod yn fentor gwych ac wedi fy nghefnogi yn fy rôl. Mae Bill bob amser wedi bod yn llysgennad gwych i TPAS Cymru gan ddod â chyfoeth o brofiad a gwybodaeth am y sector yn ystod ei gyfnod ar y bwrdd a bydd colled fawr ar ei ôl.

Ar ran bwrdd TPAS hoffem estyn ein diolch a dymuno'r gorau i Bill ar gyfer y dyfodol".

Bydd Bill yn parhau i fod yn weithgar ym maes materion tai a llais y tenant ac yn parhau i wasanaethu fel Is-Gadeirydd Bwrdd Cartrefi Conwy a Bwrdd Rheoleiddiol Cymru Llywodraeth Cymru.  

Rhagor am gefndir Bill Hunt 

Yn dilyn cyfarfod bwrdd ar 31 Ionawr, Cadeirydd ac Is-Gadeirydd newydd TPAS Cymru yw:

Cadeirydd: Emma Parcell, tenant, Pobl

Is Gadeirydd: Amanda Lawrence, tenant, Cymdeithas Tai Newydd