Gyda Bwrdd Rheoleiddio Cymru (RBW) yn addasu'r arolygon bodlonrwydd tenantiaid, a ydych chi'n gwybod pa gwestiynau y dylech chi fod yn eu gofyn i'ch landlord…Darllen mwy

Yr Arolygon Bodlonrwydd Tenantiaid Safonedig Newydd (Agenda: Rhifyn 7)

Pynciau i Grwpiau Tenantiaid eu trafod â'u landlord

Mae rhai grwpiau tenantiaid wedi gofyn inni am eitemau agenda amserol / sesiynau briffio pwnc i'w grŵp tenantiaid eu trafod â'u landlord.  Mae TPAS Cymru wedi creu cyfres friffio yr ydym yn ei galw’n ‘Agenda’ sy’n darparu grwpiau tenantiaid efo trosolwg o bwnc ac yn awgrymu cwestiynau y gallech eu gofyn wrth i chi ymgysylltu â’ch landlord.  Bydd y briff hwn yn canolbwyntio ar y canlynol:

Yr Arolygon Bodlonrwydd Tenantiaid Safonedig Newydd

Mae Llywodraeth Cymru a landlordiaid cymdeithasol eisiau sicrhau bod tenantiaid yng Nghymru yn mwynhau cartrefi a gwasanaethau landlordiaid o ansawdd uchel - yn enwedig atgyweiriadau a chynnal a chadw.

Er mwyn helpu i ddarganfod beth yw barn tenantiaid am y gwasanaethau y maent yn eu derbyn mae Llywodraeth Cymru bellach yn ei gwneud yn ofynnol i bob landlord cymdeithasol (Cymdeithasau Tai a Chynghorau) gynnal Arolygon Bodlonrwydd Tenantiaid Safonedig.

Yna bydd canlyniadau'r arolygon yn cael eu cyhoeddi ar wefan ganolog i gynorthwyo tenantiaid i graffu a chymharu perfformiad landlordiaid. Gall landlordiaid hefyd gyhoeddi eu canlyniadau eu hunain i'w rhannu â'u tenantiaid.

Y manylion

Mae angen cynnal yr arolwg safonedig o leiaf bob 2 flynedd. Gall landlordiaid cymdeithasol eu gwneud yn amlach os ydyn nhw eisiau. Gallant hefyd wneud arolygon bodlonrwydd eraill. Weithiau cyfeirir at yr arolygon hyn fel arolygon STAR.

Mae llawer o gwestiynau yn yr arolygon yn gofyn i denantiaid pa mor fodlon ydyn nhw gyda gwasanaeth penodol. Mae 12 cwestiwn craidd y mae'n rhaid i bob landlord eu gofyn yn yr arolwg, a restrir isod. Gall landlordiaid ofyn cwestiynau ychwanegol eraill.

Y cwestiynau craidd:

  1. Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi gyda'r gwasanaeth a ddarperir gan eich landlord cymdeithasol?
  2. Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ag ansawdd cyffredinol eich cartref?
  3. Yn gyffredinol, pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi gyda'r ffordd y mae'ch landlord cymdeithasol yn delio ag atgyweiriadau a chynnal a chadw?
  4. Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi fod eich taliadau gwasanaeth yn darparu gwerth am arian?
  5. Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi â'ch cymdogaeth fel lle i fyw?
  6. Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi fod eich rhent yn darparu gwerth am arian?
  7. Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi fod eich landlord cymdeithasol yn gwrando ar eich barn ac yn gweithredu arnynt?
  8. Wrth feddwl am eich cartref yn benodol, pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi bod eich landlord cymdeithasol yn darparu cartref sy'n ddiogel?
  9. Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi gyda'r ffordd y mae'ch landlord cymdeithasol yn delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol?
  10. Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi gyda'r cyfleoedd a roddir i chi gymryd rhan ym mhrosesau gwneud penderfyniadau eich landlord cymdeithasol?
  11. Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi bod eich landlord cymdeithasol yn rhoi llais i chi ar sut mae gwasanaethau'n cael eu rheoli?
  12. I ba raddau ydych chi'n cytuno â'r datganiad canlynol - "Rwy'n ymddiried yn fy landlord cymdeithasol"

Cwestiynau i denantiaid i’w gofyn:-

  1. Pa ddulliau y mae eich landlord yn eu defnyddio i gynnal ei arolygon? e.e. ffôn, ar-lein, post.
  2. A yw'r dulliau hyn yn gynhwysol ar gyfer yr holl denantiaid sy'n byw yng nghartrefi eich landlord?
  3. A yw tenantiaid wedi bod yn rhan o ddylunio'r dulliau gorau i'w defnyddio?
  4. Pa gymorth sydd ar gael i helpu tenantiaid i gwblhau'r arolygon?
  5. Sut mae'ch landlord yn hyrwyddo'r arolygon ac yn annog tenantiaid i'w cwblhau?
  6. Pa % o denantiaid sy'n cwblhau'r arolygon? - (cyfraddau ymateb)
  7. A yw'r tenantiaid sy'n ymateb yn adlewyrchu amrywiaeth tenantiaid eich landlord?
  8. Sut mae canlyniadau arolygon yn cael eu rhannu gyda'r holl denantiaid?
  9. Sut mae tenantiaid yn ymwneud ag edrych ar ganlyniadau'r arolwg a gweithio gyda'r landlord i nodi unrhyw welliannau i'r gwasanaethau sydd eu hangen?

Byddem wrth ein bodd yn clywed am eich sgyrsiau â'ch landlordiaid. Felly e-bostiwch: [email protected]