A yw'ch sefydliad yn ymgorffori Cyfranogiad Tenantiaid? Ddim yn siŵr? Peidiwch â phoeni, mae gennym yr holl fanylion a chwestiynau i chi sicrhau eu bod yn gwneud hynny.

Ymgorffori Cyfranogiad Tenantiaid yn sefydliad eich landlord (Agenda: Rhifyn 8)

Pynciau i Grwpiau Tenantiaid eu trafod â'u landlord.

Mae rhai grwpiau tenantiaid wedi gofyn inni am eitemau agenda amserol / sesiynau briffio pwnc i'w grŵp tenantiaid eu trafod â'u landlord.  Mae TPAS Cymru wedi creu cyfres friffio yr ydym yn ei galw’n ‘Agenda’ sy’n darparu grwpiau tenantiaid efo trosolwg o bwnc ac yn awgrymu cwestiynau y gallech eu gofyn wrth i chi ymgysylltu â’ch landlord.  Bydd y briff hwn yn canolbwyntio ar y canlynol:

Mae ymgorffori Cyfranogiad Tenantiaid yn golygu bod Tenantiaid ‘wrth wraidd’ sefydliad y Landlord. Mae diwylliant y sefydliad yn credu yn CT: mae'r holl staff, uwch reolwyr a’r Bwrdd (os oes un!) yn ‘gyrru’ CT, maent yn deall buddion CT a’r ffyrdd y gall tenantiaid ‘gymryd rhan’.

Y manylion

Mae ‘Y Pethau Iawn - clywed llais tenantiaid’, yn cyfeirio at yr angen i gyfranogiad tenantiaid gael ei ‘hymgorffori’ o fewn sefydliadau landlordiaid. Mae hyn yn golygu bod diwylliant y sefydliad yn ‘byw ac anadlu’ Cyfranogiad Tenantiaid ac mae cred gan yr holl staff fod Cynnwys Tenantiaid yn ‘gweithio’.   

Os yw CT wedi'i ymgorffori yn y sefydliad bydd ffocws ar berthnasoedd agored a gonest gyda thenantiaid gyda'r landlord yn barod i wrando ar (a gweithredu ar) yr holl adborth / mewnbwn gan denantiaid, gan gynnwys gwybodaeth / ffeithiau nad ydyn nhw eisiau clywed.

Cwestiynau i denantiaid i’w gofyn:-

  • A yw arweinwyr y sefydliad yn ‘gyrru’ Cyfranogiad Tenantiaid - a yw’r ‘arwain’ ar Gyfranogiad Tenantiaid yn dod o’r ‘brig’?
  • A yw'r holl staff wedi ymrwymo i CT? e.e. a oes diwylliant ‘awto-gynnwys’ o fewn y sefydliad lle ymgynghorir / cyfranogir â thenantiaid o ran gwneud penderfyniadau gan gynnwys y rhai ar lefel strategol?
  • A roddir hyfforddiant Cyflwyniad i CT i'r holl staff?
  • A yw CT wedi'i gynnwys yn swydd ddisgrifiad yr holl weithwyr yn y sefydliad?
  • Ble mae CT o fewn strwythur y sefydliad? h.y. a yw'r Uwch Reolwr CT yn adrodd yn uniongyrchol i'r Prif Weithredwr

Byddem wrth ein bodd yn clywed am eich sgyrsiau â'ch landlordiaid. Felly e-bostiwch [email protected]