A ydych yn cytuno y dylid dwyn landlordiaid i gyfrif a chymryd  pryderon a barn tenantiaid o ddifrif? Gall Tenant Graffu sicrhau bod hynny'n digwydd. Dysgwch am fuddion tenant graffu a sut i gymryd rhan.

Tenant Graffu (Agenda: Rhifyn 9)

Pynciau i Grwpiau Tenantiaid eu trafod â'u landlord.

Mae rhai grwpiau tenantiaid wedi gofyn inni am eitemau agenda amserol / sesiynau briffio pwnc i'w grŵp tenantiaid eu trafod â'u landlord.  Mae TPAS Cymru wedi creu cyfres friffio yr ydym yn ei galw’n ‘Agenda’ sy’n darparu grwpiau tenantiaid efo trosolwg o bwnc ac yn awgrymu cwestiynau y gallech eu gofyn wrth i chi ymgysylltu â’ch landlord.  Bydd y briff hwn yn canolbwyntio ar y canlynol:

Mae tenant graffu yn rhoi cyfle i denantiaid ddwyn eu landlordiaid i gyfrif. Mae'n rhoi pŵer i denantiaid adolygu pa mor dda y mae gwasanaethau'n cael eu darparu, yn ogystal â rhoi cyfle i denantiaid gwrdd yn rheolaidd, rhoi adborth i landlordiaid, casglu tystiolaeth, a helpu i wneud argymhellion am feysydd sydd o bwys iddyn nhw.

Hwylusir tenant graffu trwy baneli Tenant Graffu. Mae'r paneli hyn yn caniatáu i denantiaid gymdeithasu a rhyngweithio â phobl o'r un anian, a thrafod ystod o faterion pwysig fel atgyweiriadau, ymddygiad gwrthgymdeithasol, a chyngor dyledion er enghraifft. Gall tenantiaid sy'n ymuno â phaneli craffu ennill gwybodaeth arbenigol fanwl, yn ogystal â gallu gweld y darlun ehangach a chynrychioli'r boblogaeth ehangach o denantiaid a chodi eu pryderon.

Mae adolygiadau diweddar a gynhaliwyd yn genedlaethol wedi darparu tystiolaeth sylweddol y gall craffu dan arweiniad tenantiaid alluogi tenantiaid i gael effaith amlwg ar wasanaethau tai.

Felly, mae cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol yn awyddus i ddarparu cyfleoedd i denantiaid o bob oed a chefndir gymryd rhan mewn tenant graffu tenantiaid. Mae TPAS Cymru yn cynnal Fforwm Craffu rhyngweithiol sy'n agored i'r holl staff a thenantiaid sydd â diddordeb mewn craffu. P'un a ydych chi'n eistedd ar banel craffu, neu yn chwilfrydig ynglŷn â sut y gallwch chi wneud gwahaniaeth a gwella gwasanaethau, polisïau, neu'r ffordd y mae penderfyniadau'n cael eu gwneud, mae'r fforwm hwn ar eich cyfer chi.  

Beth mae Tenant Graffu da yn edrych fel?

Wrth gynnal tenant graffu, rhaid dilyn arfer gorau i sicrhau bod pobl yn gwrando ar farn tenantiaid a bod newid gwirioneddol yn digwydd. Mae’n bwysig ystyried beth mae ‘da’ yn edrych fel mewn tenant graffu.

Mae tenant graffu da yn annibynnol - dylai paneli craffu gael eu harwain yn wirioneddol gan denantiaid; nhw sy'n rheoli pa feysydd sy'n cael eu craffu a'u blaenoriaethu.

Mae tenant graffu da yn argeisio canlyniadau realistig - Mae paneli tenant graffu yn gweithio gyda'i gilydd i ystyried anghenion pob parti ac yn gweithio i sicrhau canlyniadau realistig.

Mae tenant graffu da yn hygyrch ac yn darparu cyfle cyfartal - Mae gan bawb hawl i’w llais gael ei glywed. Ni ddylai ffactorau fel oedran, ethnigrwydd, anabledd neu iaith fod yn rhwystr i gymryd rhan.

Mae tenant graffu da yn darparu cefnogaeth ac adnoddau i denantiaid - mae gan denantiaid yr hyn sydd ei angen arnynt i graffu’n effeithiol. Boed yn dreuliau, technoleg, neu hyfforddiant - mae'n bwysig nad yw tenantiaid ar eu colled.

Mae gan tenant graffu da sianeli cyfathrebu effeithiol - Mae strwythurau ymgysylltu ar waith i sicrhau bod paneli craffu yn clywed gan ystod eang o denantiaid, yn ogystal â rhoi diweddariadau rheolaidd i denantiaid am ddatblygiadau a chynnydd.

Manteision Tenant Graffu

Gall tenant graffu effeithiol wneud gwahaniaeth mawr a darparu buddion i denantiaid a landlordiaid. Fel y soniwyd yn flaenorol, mae ymchwil wedi dangos bod tenant graffu yn ffordd wych i denantiaid wthio am welliannau amlwg. Fodd bynnag, mae yna lawer o fanteision ychwanegol yn gysylltiedig â thenant graffu ac mae rhai ohonynt wedi'u rhestru isod:

1. Gwell gwasanaethau i denantiaid. Y budd amlwg sy'n gysylltiedig â thenant graffu yw y gall tenantiaid godi eu pryderon am wasanaethau, helpu i ddarparu tystiolaeth ar gyfer y pryderon hyn, ac yna gweithio gyda'i gilydd i wneud gwelliannau ystyrlon i'r gwasanaethau a ddarperir iddynt.

2. Gwell gwerth am arian. Mae tenant graffu yn hyrwyddo gwerth am arian oherwydd bod tenantiaid, fel talwyr rhent, eisiau i gyllidebau adrannau tai gael eu gwario cystal ag y gallant.

3Cryfhau'r berthynas rhwng landlordiaid a thenantiaid. Mae craffu yn chwarae rhan bwysig wrth ddangos bod tenantiaid yn cymryd rhan yn y gwasanaeth tai, sydd yn ei dro yn gwella enw da landlordiaid yng ngolwg tenantiaid. Gall tenant graffu hefyd helpu staff i deimlo bod rhywun yn gwrando arnyn nhw.

4Gwell gwybodaeth a chyfathrebu.  Mae tenant graffu yn helpu i drosglwyddo gwybodaeth i denantiaid yn fwy effeithiol. Yn ogystal â throsglwyddo gwybodaeth mewn ffordd y mae tenantiaid yn ymddiried ynddo, gall tenant graffu helpu i wella cyfathrebu landlordiaid.

5. Cyfle i denantiaid i ddatblygu. Yn ogystal â buddion i denantiaid a landlordiaid, mae tenant graffu yn creu buddion i'r bobl sy'n ymuno â'r paneli. Trwy eu cyfranogiad mewn craffu a thrwy'r hyfforddiant a ddaw ochr yn ochr ag ef, mae tenantiaid yn ennill profiad, sgiliau, gwybodaeth a hyder.

Cwestiynau i denantiaid i’w gofyn:

  1. A oes gennym banel tenant graffu?
  2. Sut byddwn i'n cymryd rhan mewn tenant graffu?
  3. Beth ydw i'n ei gael o gymryd rhan?
  4. Beth yw'r broses o denant graffu?
  5. Pa mor aml mae'r cyfarfodydd yn cael eu cynnal ac ydyn nhw'n bersonol neu'n ddigidol?
  6. Pa ddulliau ydych chi'n eu defnyddio ar gyfer tenant graffu?
  7. Sut allwch chi fy sicrhau bod lleisiau tenant yn cael eu clywed a bod landlordiaid yn cael eu dwyn i gyfrif?
  8. A oes gennych unrhyw enghreifftiau o rywbeth y byddech am i denantiaid graffu arno?

Gobeithio eich bod wedi mwynhau darllen y rhifyn hwn o'r Agenda. Mae tenant graffu yn rhan bwysig o ymgysylltu â thenantiaid, a gobeithiwn fod ein 9fed rhifyn o'r Agenda yn eich annog i gymryd rhan. Byddem wrth ein bodd yn clywed am unrhyw sgyrsiau rydych chi wedi'u cael gyda'ch landlord ynglŷn â'r pwnc hwn, felly e-bostiwch [email protected] gydag unrhyw adborth neu gwestiynau pellach