Dydd Mawrth, 7 Mawrth 2023: 9.30am (i gychwyn am 10am) – 1pm
Venue Cymru, Llandudno
Rydym yn gyffrous i gyhoeddi y bydd ein cynhadledd hanner diwrnod Cartrefi a Chymunedau - Gogledd Cymru yn cael ei chynnal yn Venue Cymru ar 7 Mawrth.
Mae’r digwyddiad anffurfiol ac addysgiadol rhad ac am ddim hwn ar gyfer staff a thenantiaid ac mae ar gyfer ein haelodau TPAS Cymru yn unig. Bydd yn gyfle gwych i glywed gan amrywiaeth o siaradwyr sy’n procio’r meddwl ac yn llawn gwybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yng nghymunedau a thai gogledd Cymru. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i chi rwydweithio gyda mynychwyr o landlordiaid cymdeithasol ar draws y rhanbarth. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!
Ein siaradwyr yw…
Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru - Andy Dunbobbin - Bydd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn siarad am ei rôl a’i gyfrifoldebau a’r meysydd allweddol y disgwylir i’r Heddlu lleol eu cyflawni. https://www.northwales-pcc.gov.uk/
Cymru Gynnes - Joanna Seymour - Bydd Jo o Cymru Gynnes yn rhannu gwybodaeth am brosiectau cyfredol sy’n digwydd yng ngogledd Cymru, gyda’r nod o helpu i rymuso a galluogi trigolion i leihau eu biliau ynni i leihau’r tebygolrwydd o dlodi tanwydd, a’u galluogi a’u hannog i wella eu hiechyd a’u lles. https://www.warmwales.org.uk/
Mabon ap Gwynfor – AS, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Dai, ac aelod o Bwyllgor Tai Llywodraeth Leol. Bydd Mabon yn rhannu ei farn ar dai yng ngogledd Cymru ac yn rhoi trosolwg o’i rôl a’i gyfrifoldeb fel aelod o bwyllgor tai llywodraeth leol. https://senedd.wales/people/mabon-ap-gwynfor-ms/
Bydd Lucy Powell yn siarad am Outside Lives a pham y rhoddodd y gorau i’w rôl fel gweithiwr cymdeithasol i greu’r sefydliad. Mae Outside Lives yn defnyddio dull ‘cymuned gyfan’ wrth weithio gyda phreswylwyr: gan adfywio cymunedau trwy gydgynhyrchu a chaniatáu i bobl arwain y broses. Bydd Lucy hefyd yn siarad am fentrau newydd a’r hyn sydd ar y gweill ar gyfer Outside Lives. https://www.outsidelivesltd.org/?locale=en
Noder: Cyfyngir y niferoedd ar gyfer y gynhadledd hon, felly er mwyn sicrhau bod lleoedd ar gyfer ein holl aelodau, rydym yn gyntaf yn caniatáu i 3 aelod o staff a 3 thenant o bob Landlord gadw lle. Bydd y lleoedd hyn ar sail y cyntaf i’r felin: os oes gennym unrhyw leoedd sbâr yn nes at ddyddiad y digwyddiad byddwn yn eu hail-hysbysebu. Lawrlwythwch, cwblhewch a dychwelwch y ffurflen archebu yma at [email protected] erbyn y dyddiad cau o 20 Chwefror.
Ni ddarperir cinio yn y digwyddiad hanner diwrnod yma. Hefyd, gofynnwch am ganiatâd gan eich Landlord os ydych eisiau hawlio costau teithio i’r digwyddiad hwn.
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Cartrefi a Chymunedau Gogledd Cymru – cynhadledd ½ diwrnod
Dyddiad
Dydd Mawrth
07
Mawrth
2023, 09:30 - 13:00
Archebu Ar gael Tan
20 Chwefror 2023
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Gwybodaeth a mewnwelediad
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Venue Cymru
Cyfeiriad y Lleoliad
The Promenade
Penrhyn Crescent
Llandudno
Conwy
LL30 1BB
01492 872000