Rydym yn gyffrous i gyhoeddi dyddiad ein hail gynhadledd hanner diwrnod Cartrefi a Chymunedau - Gogledd Cymru yn cael ei chynnal yn Venue Cymru ar 20 Mawrth

 

Cartrefi a Chymunedau Gogledd Cymru – cynhadledd ½ diwrnod 2024

MAE'R SESIWN HON YN AWR YN LLAWN

Dydd Mercher 20 Mawrth 2024 - 9.30am (i gychwyn am10am) – 1pm

Venue Cymru, Llandudno

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi dyddiad ein hail gynhadledd hanner diwrnod Cartrefi a Chymunedau - Gogledd Cymru yn cael ei chynnal yn Venue Cymru ar 20 Mawrth.

Mae'r digwyddiad anffurfiol ac addysgiadol hwn y rhad ac am ddim i staff a thenantiaid ac mae ar gyfer ein haelodau TPAS Cymru yn unig. Dyma gyfle gwych i glywed gan amrywiaeth o siaradwyr sy’n procio’r meddwl ac yn llawn gwybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yng nghymunedau a thai gogledd Cymru. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i chi rwydweithio gyda thenantiid a staff o landlordiaid cymdeithasol ar draws y rhanbarth. 

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!

Siaradwyr wedi'u cadarnhau: 

  • Mae Walis George iyn Gyn Brif Weithredwr Cymdeithas Tai sy’n frwd dros dai cymdeithasol a fforddiadwy a chynnal cymunedau Cymraeg eu hiaith. Bydd Walis yn sôn am gynigion ar gyfer Deddf Eiddo i Gymru a fydd, o’i gweithredu, yn helpu i reoleiddio’r farchnad agored, gan sicrhau digon o dai fforddiadwy.
  • Bydd Robert Callow a Karen Owen o dîm Ymgysylltu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn rhannu eu gwybodaeth a’u profiad am bwysigrwydd clywed lleisiau’r boblogaeth yma yng Ngogledd Cymru sy’n defnyddio ein gwasanaethau iechyd. Clywch am y cyfleoedd ar sut y gallwch chi ddweud eich dweud i lywio darpariaeth gwasanaeth yn y dyfodol a darganfod beth sydd wedi newid o ganlyniad i gyfranogiad.
  • Bydd Craig Sparrow, ClwydAlyn – yn siarad am ddatblygu cartrefi newydd fel landlord cymdeithasol gan gynnwys sut y cânt eu hariannu; y broses gynllunio; cyfathrebu â'r gymuned leol; y safonau adeiladu a bennwyd gan Lywodraeth Cymru a chartrefi carbon isel a chartrefi ynni effeithlon.
  • Bydd Claire Shiland – Tai Gogledd Cymru a Martin Cooil - Cyngor Sir y Fflint yn rhannu eu gwybodaeth am yr hyn sy’n digwydd ym maes tai cymdeithasol yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd.
  • Gweledigaeth Sylfaen Bevan yw am Cymru deg, ffyniannus a chynaliadwy a’i nod yw creu mewnwelediadau, syniadau ac effaith sy’n rhoi terfyn ar dlodi ac anghydraddoldeb. Clywch am eu gwaith a'u prosiectau presennol yn y gogledd.

Noder: Cyfyngir y niferoedd ar gyfer y gynhadledd hon, felly er mwyn sicrhau bod lleoedd ar gyfer ein holl aelodau, rydym yn gyntaf yn caniatáu i 3 aelod o staff a 3 thenant o bob Landlord i gadw lle.  Bydd y lleoedd hyn ar sail y cyntaf i’r felin: os oes gennym unrhyw leoedd sbâr yn nes at ddyddiad y digwyddiad byddwn yn eu hail-hysbysebu.  

Ni ddarperir cinio yn y digwyddiad hanner diwrnod hwn.  Hefyd, gofynnwch am ganiatâd gan eich Landlord os ydych am hawlio costau teithio i’r digwyddiad hwn

MAE'R SESIWN HON YN AWR YN LLAWN

 

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Cartrefi a Chymunedau Gogledd Cymru – cynhadledd ½ diwrnod 2024

Dyddiad

Dydd Mercher 20 Mawrth 2024, 09:30 - 13:00

Archebu Ar gael Tan

08 Ionawr 2024

Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan

Math o ddigwyddiad

Yn addas ar gyfer

I gyd

Siaradwr

Guest Speaker

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Venue Cymru

Cyfeiriad y Lleoliad

The Promenade
Penrhyn Crescent
Llandudno
Conwy
LL30 1BB

01492 872000

Google Map Icon

Enw
Cyfeiriad ebost


Canllaw Archebu

1. Rhowch eich Enw a'ch cyfeiriad E-bost, a dewiswch faint o docynnau yr hoffech eu harchebu, yna cliciwch ar 'Parhau i Archebu'.

2. Os ydych yn archebu 1 tocyn, rhowch eich manylion a chliciwch "Arbed a Chadarnhau eich Archeb". Yna fe welwch eich manylion yn y blwch oren ar y gwaelod.

3. Os ydych wedi dewis mwy nag 1 tocyn, rhowch fanylion y cynrychiolwr cyntaf fel yng Ngham 2, cliciwch "Arbed a Chadarnhau eich Archeb" a sgroliwch yn ôl i fyny i roi manylion eich ail gynrychiolwr. Ailadroddwch Gam 3 nes bod eich holl gynrychiolwyr wedi eu hychwanegu.

4. Unwaith y byddwch wedi ychwanegu gwybodaeth am eich holl gynrychiolwyr, fe welwch y botwm "Ychwanegu Cynrychiolwr" yn newid i "Arbed a Chadarnhau eich Archeb". Unwaith y byddwch yn clicio’r bowm yma, fe welwch flwch gwyrdd gyda "Llwyddiant" yn ymddangos ar eich sgrîn, a byddwch yn derbyn cadarnhad trwy e-bost eich bod wedi archebu yn llwyddiannus.

5. Gellir talu am y digwyddiad trwy BACs, neu fe fydd TPAS Cymru yn anfon anfoneb ar ôl y digwyddiad gymryd lle.

Os oes unrhyw broblemau gyda'ch archeb, mae croeso i chi ein ffonio ar 029 2023 7303 neu 01492 59304

AGOS X