Dydd Iau 17 Gorffennaf 2025, 1-2:30pm.
Galwad i Denantiaid yng Nghymru! – croeso i bawb yn ein Fforwm Llais Tenantiaid Cymru nesaf.
Mae ein fforwm ar-lein anffurfiol yn gyfle gwych i denantiaid o bob cwr o Gymru glywed gan, a chael eu clywed gan, rai o'r prif benderfynwyr ym maes Tai.
Mae croeso i chi ymuno â ni i wrando, arsylwi neu ymuno yn y drafodaeth.
Yn ein Fforwm ym mis Gorffennaf, bydd Repa Antonio, Arweinydd Polisi Rhenti o Lywodraeth Cymru (LlC), yn ymuno â ni.
Gyda Llywodraeth Cymru wrthi'n ymgynghori ar y 5-10 mlynedd nesaf o Bolisi Rhenti, bydd Repa yn rhannu'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed yn y penderfyniad pwysig hwn.
Os nad ydych chi erioed wedi bod i sesiwn o'r blaen, beth am roi cynnig arni? Bydd croeso cynnes i chi, a byddem wrth ein bodd yn eich gweld chi yno!
Pwy ddylai fynychu?
Tenantiaid
Cost:
Am ddim i aelodau TPAS Cymru
Bleb:
Ar-lein dros Zoom
Recordiad: Er mwyn annog sgwrs agored, ni fydd y sesiwn yn cael ei recordio.
Archebwch eich lle drwy'r ddolen Zoom yma
Noder – Unwaith y byddwch wedi archebu drwy ddefnyddio'r ddolen hon byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost gyda'r ddolen ymuno yn uniongyrchol gan Zoom ([email protected]) Nid yw'r ddolen ymuno yn dod o gyfeiriad e-bost TPAS Cymru felly efallai y bydd angen i chi wirio'ch blychau e-bost sbam / sothach. Mae'r e-bost gyda dolen ymuno hefyd yn rhoi'r cyfle i chi gadw'r manylion i galendr electronig, fel Outlook
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Ymgynghoriad Rhent: Fforwm Llais Tenantiaid Cymru
Dyddiad
Dydd Iau
17
Gorffennaf
2025, 13:00 - 14:30
Archebu Ar gael Tan
Dydd Iau 17 Gorffennaf 2025
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Yn addas ar gyfer
Tenantiaid
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad