Dydd Mawrth 9 Gorffennaf: 10.30am – 12.00pm
Mae celcio yn broblem gymhleth i landlordiaid cymdeithasol a thenantiaid, gan arwain weithiau at droi allan a digartrefedd. Mae’n cymryd llawer o amser ac yn gostus i’r landlord ac yn drawmatig i’r tenant. Bydd y gweithdy rhyngweithiol ar-lein hwn yn archwilio sut i ddarparu cymorth i denantiaid gan ddefnyddio gwahanol agweddau ar gymorth gan ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio mwy ar yr unigolyn sydd o fudd i denantiaid a landlordiaid.
Roisin O'Kelly, Pennaeth Gwasanaethau - Platfform a fydd yn cyflwyno modelau a dulliau therapiwtig, yn seiliedig ar gymorth wedi’i lywio gan drawma, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a ddarperir o fewn tai cymdeithasol a chymorth cymunedol ledled Cymru. Bydd Roisin yn cyflwyno dulliau o ddarparu cymorth i breswylwyr sy’n wynebu heriau iechyd meddwl a chynorthwyo pobl i sicrhau a chynnal tenantiaethau ochr yn ochr ag atal digartrefedd.
Kayley Hyman, Holistic Hoarding: Ymunwch â ni wrth i ni archwilio celcio trwy lens iechyd meddwl a thrawma, ac ystyried arferion gorau newydd yn y maes i fynd i’r afael â chyflwr cymhleth celcio. Mae angen ymagwedd amlochrog ar y cyflwr amlweddog hwn, gydag athroniaethau newydd yn ganolog i hyrwyddo tenantiaethau cadarnhaol.
Deborah Fellows, Rheolwr Cefnogi Tai a Chefnogi o NCH - a fydd yn rhannu ei phrofiad ymarferol eang o gefnogi tenantiaid/cwsmeriaid ag ymddygiadau celcio.
Pwy ddylai fynychu?
Staff sy'n ymwneud â delio â thenantiaid wrth reoli cartrefi lle mae celcio yn broblem.
Cost
-
Staff/Bwrdd (aelodau): £39 + TAW
-
Staff/Bwrdd(nad ydynt yn aelodau): £79 +TAW
Pethau i'w gwybod:
-
Gweithdy ar-lein dros Zoom fydd hwn
-
Ni fydd y sesiwn yn cael ei recordio
Archebwch eich lle drwy'r ddolen Zoom yma: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZ0sdeivrjssGNSJvaY-J4i_YhmYSemOJ09f
Telerau ac Amodau - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
-
Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected] Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
-
Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
-
Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
-
Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
-
Ar gyfer ein digwyddiadau taledig sylwch, dim ond un person all ddefnyddio un cofrestriad taledig, a gwaherddir rhannu dolenni ymuno / sgriniau. Felly, rhaid i bob person sy'n mynychu'r digwyddiad hwn gael cofrestriad ar wahân.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Celcio mewn Tai Cymdeithasol: sut i gefnogi tenantiaid i gynnal tenantiaethau
Dyddiad
Dydd Mawrth
09
Gorffennaf
2024, 10:30 - 12:00
Archebu Ar gael Tan
08 Gorffennaf 2024
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Yn addas ar gyfer
Landlordiaid
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad