Eich Cartrefi, Eich Cymunedau - Mae Eich Llais yn bwysig
Dydd Mercher 16 a Dydd Iau 17 Tachwedd 2022
(Mae'r Pecyn Cyflawn yn cynnwys noson ychwanegol ar 15 o Dachwedd)

Mae tenantiaid, landlordiaid a chymunedau yn wynebu llawer o heriau gwirioneddol o’u blaenau – costau byw, fforddiadwyedd rhenti, codi safonau tai, gwella gwasanaethau atgyweirio, mynd yn ddigidol / trawsnewid digidol a datgarboneiddio cartrefi, i enwi dim ond rhai. Felly sut y gall lleisiau tenantiaid a chymunedau fod yn ganolog i nodi a phenderfynu ar atebion i'r heriau hyn?
Ein cynhadledd ymgysylltu genedlaethol yw’r man lle mae tenantiaid, staff a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn cwrdd i drafod y cyfleoedd tai a chymunedol diweddaraf, dysgu o arfer da ac archwilio syniadau ac atebion.
Gweler y Rhaglen llawn yma
Rydym wedi trefnu amrywiaeth wych o siaradwyr gwadd yn trafod y newyddion tai a chymunedol diweddaraf. Byddwch hefyd yn gallu dewis o ystod gyffrous o sesiynau gweithdy, a bydd digon o amser i sgwrsio a rhannu syniadau ag eraill sy’n mynychu...felly ni fyddwch eisiau colli allan!
.jpg)
Yn agor ein cynhadledd eleni fydd Julie James AS, y Gweinidog dros y Newid yn yr Hinsawdd.
Mae cyfrifoldebau'r Gweinidog yn cynnwys tai a gweithgareddau sy'n gysylltiedig â thai Awdurdodau Lleol a chymdeithasau tai, gan gynnwys rheoli tai a dyrannu tai cymdeithasol a fforddiadwy.
Mae siaradwyr gwadd eraill yn cynnwys:
o Kevin Davies – Pennaeth Ymgysylltu â'r Cyhoedd, Senedd
o Dr. Steffan Evans – Sefydliad Bevan
o Jennie Bibbings – Shelter Cymru
o Ian Walters – Pennaeth Strategaeth a Pholisi Rheoleiddio yn Llywodraeth Cymru
o Steve Jones – Prif Weithredwr Grŵp, cymdeithas dai Barcud
Dewiswch o'n gweithdai cynhadledd cyffrous ac addysgiadol:
Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol: (ychwanegir mwy):
-
Dadl am gostau byw cynyddol a rôl y sector tai.
-
Cyngor ar arbed ynni gan Cymru Gynnes
-
Dadl Fawr ar Sero Net ym maes tai
-
Cynnwys Tenantiaid mewn Gosod Rhenti
-
Rheoleiddio Cymdeithasau Tai - diweddariad gan Lywodraeth Cymru
-
Rhoi tenantiaid wrth wraidd penderfyniadau strategol – astudiaethau achos gan 2 landlord cymdeithasol
-
Delio â chwynion – Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru/CSA
-
Annhegwch Tlodi
-
Diweddariad ar Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) newydd gan Lywodraeth Cymru
-
Creu digwyddiadau cymunedol cyffrous
-
Defnyddio crefftau ar gyfer ymgynghoriad cymunedol
Peidiwch ag anghofio – Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael – mae angen archebu i gadw eich lle!
I archebu, lawr lwythwch, cwblhewch a dychwelwch y ffurflen archebu yma
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni: 01492 593046 / 02920 237303 [email protected]
TELERAU AC AMODAU
-
Nid yw’r prisiau yn cynnwys TAW.
-
Mae’r opsiynau cynrychiolwyr dydd yn cynnwys lluniaeth a chinio ond nid y pryd bwyd min nos na llety.
-
Darperir llety yn y Metropole ar gyfer y cynrychiolwyr sy’n archebu’r opsiynnau preswyl llawn yn unig.
-
NI ALL TPAS Cymru dderbyn archebion dros dro.
-
Dim ond un cynrychiolydd fesul ffurflen archebu y derbynnir.
-
Mae angen cadarnhad ysgrifenedig ar gyfer pob canslad. Bydd cansladau a dderbynnir cyn y dyddiad cau o ddydd Gwener 28 Hydref 2022 yn cael eu had-dalu, minws ffi weinyddu o £30.00. Ni fydd unrhyw ad-daliadau yn cael eu prosesu ar ôl y dyddiad hwn.
-
Bydd cynrychiolwyr cofrestredig nad ydynt yn mynychu'r gynhadledd yn atebol i dalu yn llawn oni bai ein bod wedi derbyn cadarnhad ysgrifenedig erbyn y dyddiad canslo.
-
Bydd unrhyw newidiadau, megis enwau, a wneir i archebion ar ôl dydd Gwener 28 Hydref 2022 yn derbyn ffi weinyddol o £15.00 + TAW fesul newid.
-
Efallai y bydd rhaid i TPAS Cymru ganslo'r digwyddiad hwn. Yn yr achos yma, byddwn yn ad-dalu unrhyw daliadau a dderbyniwyd. Ni fyddwn yn ad-dalu unrhyw gostau y gallech fynd iddynt o ganlyniad i'r canslad.
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Cynhadledd Genedlaethol Ymgysylltu â Thenantiaid Cymru 2022
Dyddiad
Dydd Mercher
16
Tachwedd
2022, 10:30 - Dydd Iau17Tachwedd2022, 15:00
Archebu Ar gael Tan
Dydd Gwener 28 Hydref 2022
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Gwybodaeth a mewnwelediad
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
The Metropole Hotel
Cyfeiriad y Lleoliad
The Metropole Hotel and Spa
Temple Street
Llandrindod Wells
Powys
LD1 5DY
+44 (0) 1597 823700