Ymunwch â ni i fod yn un o'r rhai cyntaf i glywed barn tenantiaid ar y pwnc pwysig hwn.

Dyraniadau Digartrefedd – Adroddiad Briffio

28 Chwefror, 12:30pm - 1:30pm 

Yn ôl ym mis Hydref 2023, gofynnodd Llywodraeth Cymru am farn ar eu cynigion ar gyfer newidiadau i bolisi a chyfraith, i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru. Buont yn ymgynghori ar ddiwygio’r ddeddfwriaeth ddigartrefedd graidd bresennol, rôl gwasanaethau cyhoeddus Cymru o ran atal digartrefedd, cynigion wedi’u targedu i atal digartrefedd ar gyfer y rhai yr effeithir arnynt yn anghymesur, mynediad at dai a gweithredu’r newidiadau polisi.

Fel llais tenant yng Nghymru, gofynnwyd i TPAS Cymru sicrhau bod y bobl yr effeithir arnynt gan y cynigion hyn yn cael y cyfle i helpu i'w siapio. Felly, fe wnaethom lansio arolwg wythnos o hyd i denantiaid mewn tai cymdeithasol, yn cynnwys 21 cwestiwn. Ymatebodd dros 600 o denantiaid tai cymdeithasol o bob un o’r 22 ardal awdurdod lleol yng Nghymru, gan rannu eu barn ar y cynigion a nodir yn y Papur Gwyn.

Yn y sesiwn hon, byddwn yn rhannu gyda chi y themâu allweddol a ddaeth i'r amlwg.
 
Pwy ddylai fynychu? – Unrhyw un sydd â diddordeb mewn tai a digartrefedd
 

Cost – Am ddim

Pethau i'w gwybod:

  • Cyfarfod ar-lein yw hwn trwy Zoom
  • Ni fydd y sesiwn yn cael ei recordio

Archebwch eich lle drwy'r ddolen Zoom yma: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZAoduqtpj0vE9QfIpmolapeThFxNdmQJMsf

 

 

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Dyraniadau Digartrefedd – Adroddiad Briffio

Dyddiad

Dydd Mercher 28 Chwefror 2024, 12:30 - 13:30

Archebu Ar gael Tan

Dydd Mercher 28 Chwefror 2024

Math o ddigwyddiad

Yn addas ar gyfer

I gyd

Siaradwr

Elizabeth Taylor

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Online

Cyfeiriad y Lleoliad



Google Map Icon

Canllaw Archebu

1. Bydd dolen i ffurflen archebu ar-lein ar gyfer y digwyddiad ar-lein wedi'i darparu. Dilynwch y ddolen a chwblhewch y ffurflen archebu.

AGOS X
  1. TPAS Cymru CANNOT accept any provisional bookings.
  2. To ensure opportunities for a wide range of organisations and voices, we may need to restrict the number of attendees per member organisation.
  3. Written / email confirmation is required for all cancellations. Cancellations received before the closing date will be refunded, minus an administration fee of £15.00 plus VAT. No refunds will be processed after this date
  4. Registered delegates who frequently do not attend the events they booked on, may find they are prevented from attending future events(unless written communication is received by the cancellation date).
  5. Where a fee is associated with an event, registered delegates who do not attend the event will be liable for payment in full unless written communication is received by the cancellation date
  6. TPAS Cymru reserve the right to cancel this event. In this case we will refund any payments received. We will not refund any costs you may incur as a result of the cancellation.