Gweminar Arfer Da
Dydd Mawrth 23 Mai 2023: 10am - 12.45pm
Mae landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru a ledled y DU wedi bod yn adolygu ac yn cryfhau sut maent yn atal, rheoli ac ymateb i achosion o leithder a llwydni yng nghartrefi tenantiaid. Felly, beth sydd wedi gweithio? a beth sydd nesaf?
Ymunwch â ni ar gyfer y gweminar hanfodol hon i glywed gan amrywiaeth o siaradwyr arbenigol a fydd yn rhannu amrywiol ddulliau ac arferion da a ddefnyddir yn y sector.
Byddwn yn clywed y diweddaraf ar sut mae gwasanaethau, systemau a chymorth sy’n ymwneud â lleithder a llwydni wedi newid i gadw cartrefi tenantiaid yn ddiogel.
Wrth i ni aros am ganfyddiadau adolygiad Llywodraeth Cymru o sut mae landlordiaid cymdeithasol wedi ymateb i’r gwersi a ddysgwyd o farwolaeth drasig Awaab Ishak, mae’n amlwg y bydd lleithder a llwydni yn parhau i fod yn faes allweddol i’r sector ganolbwyntio arno.
Siaradwyr a gadarnhawyd:

Ian Walters - Pennaeth Strategaeth a Pholisi Rheoleiddio yn Llywodraeth Cymru
Geoffrey Hunt – Patholegydd Adeiladu a Syrfëwr Adeiladau Siartredig.
Geoffrey yw cyd-awdur ‘Guide to Managing condensation mould in tenants’ homes.’

Gemma Fouracre - Pennaeth Gwasanaethau Eiddo a Thir Tai Tarian

Sarah Davies, Uwch Swyddog Polisi ac Ymarfer, CIH
Duncan Forbes, Prif Weithredwr, Trivallis
Ar gyfer pwy mae'r sesiwn? – mae'r sesiwn gweminar hon yn agored i'r holl staff, aelodau'r bwrdd, Aelodau Awdurdod Lleol a thenantiaid. Bydd yn arbennig o fuddiol i staff sy'n gyfrifol am feysydd cysylltiedig megis: rheoli asedau; atgyweiriadau; Gwasanaeth cwsmer; cwynion; a gwella gwasanaethau.
Cost fesul person (nid grŵp)
-
Staff/Bwrdd (aelodau): £59+TAW
-
Pawb Arall: £119+TAW
-
Tenantiaid: Am ddim
Pethau i'w gwybod:
-
Gweminar ar-lein yw hwn trwy Zoom
-
Ni fydd y sesiwn yn cael ei recordio
-
Mae'r gyfradd cynrychiolwyr ar gyfer un person nid archeb grŵp – codir ffi ar gyfer pob mynychwr: mae angen i bob mynychwr gofrestru'n unigol
Archebwch eich lle drwy'r ddolen Zoom yma https://us02web.zoom.us/webinar/register/WN_8fsk1b21Rr-iPKH4bxOAZg
Telerau Canslo - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
-
Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected] Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
-
Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
-
Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
-
Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
-
Ar gyfer ein digwyddiadau taledig sylwch, dim ond un person all ddefnyddio un cofrestriad taledig, a gwaherddir rhannu dolenni ymuno / sgriniau. Felly, rhaid i bob person sy'n mynychu'r digwyddiad hwn gael cofrestriad ar wahân.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Gweminar Arfer Da Lleithder a Llwydni: Gwella gwasanaethau a chymorth - beth sydd wedi gweithio? a beth sydd nesaf?
Dyddiad
Dydd Mawrth
23
Mai
2023, 10:00 - 12:45
Archebu Ar gael Tan
Dydd Gwener 19 Mai 2023
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Gwybodaeth a mewnwelediad
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad