MAE'R SESIWN YN LLAWN - Mae sesiwn arall wedi ei drefnu - gweler y dudalen yma
Dydd Mawrth 18 Ebrill: 10.00am - 12.00pm
Gan ddefnyddio mewnwelediad gan Denantiaid ac arfer da yn y sector, byddwn yn archwilio dulliau ymarferol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer i helpu sefydliadau i ymateb yn gadarnhaol, yn rhagweithiol a chydag empathi i bryderon tenantiaid ynghylch lleithder a llwydni.
Byddwn yn canolbwyntio’n benodol ar y meddylfryd, iaith, naws a chamau gweithredu sydd eu hangen i ddarparu profiad gwasanaeth cefnogol, cynhwysol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i denantiaid.
Yn ystod y sesiwn ryngweithiol ac addysgiadol hon, byddwn yn gweithio trwy ystod o bwyntiau meddwl, o gefnogaeth, hygyrchedd systemau adrodd a chymryd perchnogaeth, hyd at gyfathrebu ac ôl-ofal.
Nod y sesiwn
Mae'r sesiwn wedi'i chynllunio i roi dulliau i gynrychiolwyr y gallant eu datblygu ymhellach a'u cymhwyso yn eu sefydliadau. Y bwriad yw cyflwyno, adfywio, ac ysbrydoli mewn amgylchedd hamddenol sy'n ysgogi'r meddwl - gyda digon o sgwrsio a rhyngweithio.
Beth na fydd yn cael ei gynnwys
Sylwch – ni fydd y sesiwn yn ymdrin â’r canlynol:
-
Agweddau technegol ar leithder a llwydni; mathau, achosion, asesiad, canfod triniaeth ayyb
-
Gwybodaeth am gyngor/atal lleithder a llwydni
-
Materion cyfreithiol, gan gynnwys Cwmnïau Rheoli Hawliadau
Ar gyfer pwy mae'r sesiwn – mae'r gweithdy hwn ar gyfer staff sy'n gyfrifol am feysydd cysylltiedig megis: rheoli asedau, atgyweirio, gwasanaeth cwsmeriaid, cwynion a gwella gwasanaethau.
Cost fesul person (nid grwp)
-
Tenantiaid: £29+TAW
-
Staff/Bwrdd(aelodau): £59+TAW
-
Pawb Arall: £119+TAW
Pethau i'w gwybod:
-
Ni fydd y sesiwn yn cael ei recordio
-
Gan mai gweithdy rhyngweithiol fydd hwn bydd gofyn i chi droi eich camerâu ymlaen.
-
Gweithdy hyfforddi rhyngweithiol ar-lein yw hwn trwy Zoom
-
Gellir defnyddio ystafelloedd cyfarfod hefyd i alluogi trafodaeth a rhannu arfer da
Hwylusydd y sessiwn – David Lloyd
MAE'R SESIWN YN LLAWN - CYSYLLTWCH A NI I GAEL EICH RHOI AR RESTR AROS
Telerau Canslo - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
-
Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected] Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
-
Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
-
Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
-
Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
-
Ar gyfer ein digwyddiadau taledig sylwch, dim ond un person all ddefnyddio un cofrestriad taledig, a gwaherddir rhannu dolenni ymuno / sgriniau. Felly, rhaid i bob person sy'n mynychu'r digwyddiad hwn gael cofrestriad ar wahân.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Lleithder a Llwydni – cael proses gwasanaeth cwsmeriaid yn iawn i denantiaid (Ailadroddiad)
Dyddiad
Dydd Mawrth
18
Ebrill
2023, 10:00 - 12:00
Archebu Ar gael Tan
17 Ebrill 2023
Math o ddigwyddiad
Hyfforddiant
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
david lloyd
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad