Ffeithiau Dros Ofn: Canllaw Tenantiaid Newydd ar Mewnfudo, Lloches a Thai Cymdeithasol
Ydych chi'n denant sy'n byw mewn tai cymdeithasol? Ydych chi'n clywed llawer am fewnfudo, lloches a thai cymdeithasol?
Mae cael y wybodaeth gywir yn bwysig. Nid yw hyn yn ymwneud â gwleidyddiaeth, mae'n ymwneud â phobl. Nid oes rhaid i wybod y ffeithiau fod yn gymhleth.
Dyna pam, fel arweinydd penodedig Llywodraeth Cymru ar Lais y Tenantiaid, rydym wedi gwneud y canllaw tenantiaid hwn. Fel y gallwch gael y ffeithiau am dai cymdeithasol a mewnfudo, mudo a lloches, nid yr ofn.
Mae hwn yn ganllaw ymarferol wedi'i anelu at denantiaid tai cymdeithasol.
Mae'n cynnwys:
-
Y cefndir
-
Materion iaith
-
Ffeithiau am dai cymdeithasol
-
Awgrymiadau ar gyfer mynd i'r afael â chamwybodaeth ar-lein
-
Adnoddau a chyfeiriadau defnyddiol eraill
Yn aml, rydym yn gweld mythau ac anwireddau drwy sôn am bethau a'r cyfryngau cymdeithasol, gan feio mewnfudwyr a phobl sy'n ceisio lloches am ddiffyg cartrefi ac adnoddau. Mae'r honiadau hyn yn anghywir, yn niweidiol a gallant droi tenantiaid yn erbyn ei gilydd mewn cymunedau.
Byddwn bob amser yn hyrwyddo ffeithiau, yn hytrach nag ofn. Gobeithiwn y byddwch yn gweld y canllaw hwn yn ddefnyddiol.l.