Sesiwn hyfforddi ryngweithiol gyda'r arbenigwr craffu blaenllaw yn y DU, Dr Dave Mckenna
Dydd Mercher, 5 Mehefin 2024: 10.00am - 12.00pm
Gall cwestiynu adeiladol helpu i roi sicrwydd bod gwasanaethau landlordiaid yn effeithiol, y bydd cynlluniau i wella perfformiad yn gweithio a bod data yn gywir ac yn gyflawn.
Mae’r sesiwn ryngweithiol hon ar gyfer unrhyw un sy’n ymwneud â chyfarfodydd – tenantiaid / aelodau bwrdd / aelodau etholedig / Cadeiryddion – a bydd yn edrych ar ffyrdd o fod yn fwy adeiladol a chynhyrchiol mewn cyfarfodydd. Bydd awgrymiadau ymarferol yn cael eu rhannu i'ch helpu i feddwl am yr hyn yr ydych eisoes yn ei wneud yn dda a pha bethau newydd y gallech roi cynnig arnynt.
Mae Dave yn defnyddio doethineb arbenigwyr sgwrsio fel hyfforddwyr, hwyluswyr a chyfryngwyr er mwyn darparu awgrymiadau, technegau a fframweithiau y gellir eu defnyddio a’u rhannu’n hawdd.
Bydd y sesiwn gweithdy anffurfiol yn gymysgedd o gyflwyniadau byr a gwaith mewn grwpiau bach fel y gallwch ddysgu gan gyfranogwyr eraill a chael cyfle i roi cynnig ar bethau.
Bydd pynciau allweddol yn cynnwys:
-
Her adeiladol a chefnogaeth adeiladol
-
Fformiwla syml ar gyfer gwneud cyfraniad
-
Pa gwestiwn i'w ddefnyddio a phryd
-
Syniadau ar gyfer creu sgyrsiau cynhyrchiol mewn cyfarfodydd
Ar gyfer pwy mae'r sesiwn?
Mae’r sesiwn yn addas ar gyfer unrhyw un sy’n ymwneud â chyfarfodydd – tenantiaid / aelodau bwrdd, aelodau etholedig, Cadeiryddion a staff llywodraethu.
Cost:
-
Staff / Aelodau Bwrdd / Aelodau Etholedig - £59 +TAW
-
Tenantiaid - £39 + TAW
-
Pawb Arall - £89 + TAW
Sesiwn hyfforddi ryngweithiol gyda'r arbenigwr craffu blaenllaw yn y DU, Dr Dave Mckenna
Cofrestrwch trwy'r ddolen Zoom yma
Telerau ac Amodau - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
-
Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected] Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
-
Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
-
Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
-
Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
-
Ar gyfer ein digwyddiadau taledig sylwch, dim ond un person all ddefnyddio un cofrestriad taledig, a gwaherddir rhannu dolenni ymuno / sgriniau. Felly, rhaid i bob person sy'n mynychu'r digwyddiad hwn gael cofrestriad ar wahân.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Sgiliau Holi Adeiladol ar gyfer Cyfarfodydd Effeithiol
Dyddiad
Dydd Mercher
05
Mehefin
2024, 10:00 - 12:00
Archebu Ar gael Tan
Dydd Mawrth 04 Mehefin 2024
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad