Dydd Mawrth, 17 Hydref: 10am-1pm
Mae costau byw ac argyfyngau ynni wedi bod yn gwneud i bobl ofyn i'w hunain sut i ostwng eu biliau, ac o ganlyniad mae Sero Net yn gyflym iawn wedi dod yn bwnc poeth ym maes tai. Ond, pan edrychwn ar Sero Net, mae yna dunelli o jargon, technolegau, a pholisïau sy’n cael eu crybwyll yn y gofod, sy’n ei gwneud hi’n anodd deall beth mae tai carbon isel yn ei olygu mewn gwirionedd i chi, eich cartref, neu’ch sefydliad.
Mae TPAS Cymru yma i helpu! Bydd y sesiwn bersonol hon yn eich arwain trwy rai o’r termau a’r syniadau rhagarweiniol y mae angen i chi wybod am Sero Net, ynghyd ag awgrymiadau diweddaraf ar gael tenantiaid i ymgysylltu â Sero Net a gwneud Cymru yn fwy carbon isel.
Mae rhai o'r pynciau y byddwch chi'n dysgu mwy amdanynt yn cynnwys:
-
Pam mae Cymru yn gwthio am Sero Net a thai carbon isel
-
Effeithlonrwydd ynni a sut mae'n effeithio ar filiau a'r hinsawdd
-
Technolegau a systemau Sero Net a ddefnyddir yn gyffredin
-
Cael tenantiaid i ymgysylltu â Sero Net
Rydym yn hyderus y bydd y sesiwn gyffrous hon yn eich gadael yn teimlo'n barod i gael eich sefydliad ar eu llwybr i Sero Net! Yn ogystal, mae hwn yn gyfle gwych i chi gyfarfod a rhwydweithio gyda thenantiaid a staff eraill sydd â diddordebau tebyg mewn tai carbon isel.
Mae’r sesiwn hon yn addas ar gyfer tenantiaid a staff sydd am ddyfnhau eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o gartrefi carbon isel a’r hyn y mae’n ei olygu i’ch sefydliad ac i Gymru.
Lleoliad: TPAS Cymru, Swît 4, Adeilad Unite, 1 Heol y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9SD
Cost: (yn cynnwys lluniaeth)
-
Tenantiaid: £29 + TAW
-
Tenantiaid efo cinio: £39 + TAW
-
Staff (aelodau): £59 + TAW
-
Staff efo cinio: £69 + TAW
-
Pawb arall: £89 + TAW
Os hoffech ymuno â ni am ginio a thrafodaeth ar ôl y sesiwn hon, bydd ffi ychwanegol o £10 sydd yn cynnwys taten drwy’i chroen (gan gynnwys un topin) a diod o’ch dewis chi.
Nid oes parcio ar gael ar y safle, felly cysylltwch â ni os hoffech i ni argymell ble i barcio. Ffôn: 02920 237303
Archebwch eich lle drwy'r system ar-lein isod⬇️⬇️
Telerau Canslo - ar gyfer digwyddiadau â thâl
-
Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected] Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
-
Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
-
Os na fyddwch yn mynychu sesiwn â thâl, codir cost lawn arnoch.
-
Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Y Cyflwyniad Gorau Posib i Dai Sero Net: De Cymru
Dyddiad
Dydd Mawrth
17
Hydref
2023, 10:00 - 13:00
Archebu Ar gael Tan
Dydd Mawrth 10 Hydref 2023
Math o ddigwyddiad
Hyfforddiant
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Hannah Richardson
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Unite Building
Cyfeiriad y Lleoliad
The Unite Building
1 Cathedral Road
South Glamorgan
Cardiff
CF11 9SD
029 2023 7303