Aelodaeth Tai â Chymorth

Mae nifer cynyddol o sefydliadau sy'n ymwneud â thai â chymorth yn cydnabod manteision datblygu cyfranogiad tenantiaid. Mae TPAS Cymru yn cynnig pecyn aelodaeth a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer y sefydliadau hyn, gan dynnu ar ein profiad hir o feithrin a chefnogi cyfranogiad tenantiaid.
 

Ar hyn o bryd mae dros 200 o grwpiau tenantiaid a phreswylwyr yn bodoli a gafodd gymorth gan TPAS Cymru i ddatblygu, yn amrywio o gymdeithasau lleol bach i grwpiau mawr cymunedol. Yn ogystal, mae mewn cysylltiad cyson â landlordiaid, yn eu helpu i lunio eu hymgysylltu.

Trwy ymuno â TPAS Cymru, gallwch weithio gyda sefydliadau tebyg, er mwyn cefnogi dylanwad cynyddol cyfranogiad tenantiaid a rhanddeiliaid yng Nghymru.

Membership can cost as little as £40 per year, depending on the size of your organisation. Contact us for further information.
Get in touch to become a Supported Housing Member.

 

Manteision

  • Ymgynghoriad hanner diwrnod am ddim i gyd-fynd â’ch anghenion: gallai hyn fod yn ddiwrnod hyfforddiant staff, adolygiad llawn o'n polisi cyfranogiad neu gyngor manwl ar fater penodol. Byddwch hefyd yn elwa o ymweliad blynyddol gan ymgynghorydd addas o TPAS Cymru.
  • Gwybodaeth arbenigol ac adnoddau arfer da er mwyn galluogi datblygu cyfranogiad tenantiaid mewn tai â chymorth
  • Gwasanaeth llinell gymorth ffôn am gyngor ar faterion penodol
  • Mynediad i ardal aelodaeth gwefan TPAS Cymru
  • Gwasanaeth cymorth e-bost gan gymheiriaid, yn eich rhoi mewn cysylltiad â gwybodaeth a phrofiad aelodau eraill ar draws Cymru
  • Rhwydwaith Swyddogion Cyfranogiad Tenantiaid: sesiynau rhwydweithio a briffio rheolaidd i’ch Swyddogion Cyfranogiad
  • Sesiwn sefydlu am ddim i staff cyfranogiad tenantiaid/cymunedol newydd
  • Sesiwn sefydlu am ddim i staff cyfranogiad tenantiaid/cymunedol newydd
  • Hawliau pleidleisio, sy'n eich galluogi i gael dweud eich dweud yn etholiad Bwrdd Rheoli TPAS Cymru
  • Gwasanaethau ymgynghori am bris gostyngol, lleoedd mewn cynadleddau, cyrsiau hyfforddi a seminarau

Diddordeb?

Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy am ymuno.