Aelodaeth Gyswllt

Mae Aelodaeth Gyswllt yn ddelfrydol ar gyfer sefydliadau neu unigolion sydd â diddordeb mewn meysydd tai cymdeithasol neu fasnachol, ond nad ydynt yn ffitio dod o fewn categori tenant/ preswylydd, landlord neu dai â chymorth. Mae'n agored i:

  • Sefydliadau cymunedol lleol
  • Sefydliadau Cymru gyfan.
  • Sefydliadau masnachol – A ydych chi wedi cwblhau ein rhaglen Achrediad Contractwyr? Os felly mae eich sefydliad yn gymwys i gael Aelodaeth Gyswllt am ddim am flwyddyn o TPAS Cymru.
  • Sefydliadau dielw
  • Unigolion
Gall cost aelodaeth fod cyn lleied â £40 y flwyddyn i sefydliadau neu £21 y flwyddyn i unigolion. Cysylltwch â ni i ddod yn Aelod Cyswllt.

 

Manteision

  • Cylchlythyrau rheolaidd, i’ch cadw’n gyfredol â pholisi tai, cyfranogiad tenantiaid ac arfer da
  • Cyngor arbenigol ar gyfranogiad tenantiaid a chynnwys y gymuned
  • Gwasanaethau llinell gymorth ffôn ac e-bost i gael cyngor ar faterion penodol
  • Mynediad at ardal aelodaeth gwefan TPAS Cymru
  • Hysbysiad ymlaen llaw am gyrsiau hyfforddi newydd ei ddatblygu a digwyddiadau
  • Dangos a hyrwyddo eich bod yn aelod, gan gefnogi gwell cyfranogiad ac ymgysylltu â'r gymuned yng Nghymru.

 

Diddordeb?

Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy am ymuno.