Ymunwch â ni ar gyfer gweminar agoriadol ein hwythnos Iechyd a Diogelwch lle y cewch glywed gan 4 siaradwr gwadd ysbrydoledig ac addysgiadol  

Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru: beth mae’n ei olygu i chi

Dydd Llun 11 Hydref: 10.30am – 12.00pm

Ymunwch â ni ar gyfer gweminar agoriadol ein hwythnos Iechyd a Diogelwch TPAS Cymru

Cewch glywed gan yr ysbrydoledig Gill Kernick, awdur “Catastrophe and Systemic Change: Learning from the Grenfell Tower Fire and Other Disasters” a fydd yn agor ein hwythnos Iechyd a Diogelwch gan edrych ar pam ein bod yn methu â dysgu o drasiedïau o'r fath a pham mae lleisiau tenantiaid mor bwysig.  

Bydd Michael Corrigan, Rheolwr Polisi Diwygio Preswylwyr, Llywodraeth Cymru yn darparu trosolwg o'r 3 maes allweddol o ddiwygio preswylwyr y mae Llywodraeth Cymru eisiau eu cyflwyno o dan y Gyfundrefn Diogelwch Adeiladu newydd; ymgysylltu, cyfrifoldebau a chwynion. Bydd y sesiwn hefyd yn cynnwys diweddariad ar y camau nesaf ar yr ymgynghoriad Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru a chynlluniau ar gyfer ymgynghori ac ymgysylltu yn y dyfodol.

Bydd Matt Kennedy, Sefydliad Tai Siartredig Cymru a Bethan Procter, Tai Cymunedol Cymru, yn siarad am y Papur Gwyn ‘Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru’ a fydd yn cyflwyno newidiadau ar raddfa fawr i'r ffordd y mae darparwyr tai yn sicrhau diogelwch cartrefi. Bydd Bethan a Matt yn ystyried sut y bydd diwylliant sefydliadol, dulliau o ymgysylltu â thenantiaid a llywodraethu da yn chwarae rhan flaenllaw wrth gefnogi'r dull wedi'i adnewyddu ac yn myfyrio ar sut mae sefydliadau'n paratoi ar gyfer newid gan dynnu ar enghreifftiau o arfer da o Gymru a thu hwnt.  

Cost:

Tenantiaid: AM DDIM

Staff (aelodau): £39 + TAW

Staff (pawb arall): £79 + TAW

Archebwch eich lle drwy’r ddolen Zoom ymahttps://us02web.zoom.us/webinar/register/WN_HCeh1MWARCy5H6VEernPFA

Noder: ar ôl i chi gofrestru gan trwy'r ddolen hon byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost gyda'r ddolen ymuno yn uniongyrchol gan Zoom ([email protected]) Nid yw'r ddolen ymuno yn dod o gyfeiriad e-bost TPAS Cymru felly efallai y bydd angen i chi wirio eich blychau e-bost sbam / sothach.

Mae'r e-bost gyda dolen ymuno hefyd yn rhoi cyfle i chi arbed y manylion i galendr electronig, fel Outlook

Polisi Canslo - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl

  • Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected]  Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
  • Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
  • Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
  • Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.

Hawl TPAS Cymru i Ganslo

Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru: beth mae’n ei olygu i chi

Dyddiad

Dydd Llun 11 Hydref 2021, 10:30 - 12:00

Archebu Ar gael Tan

Dydd Llun 07 Hydref 2021

Math o ddigwyddiad

Gwybodaeth a mewnwelediad

Yn addas ar gyfer

I gyd

Siaradwr

Guest Speaker

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Online

Cyfeiriad y Lleoliad



Google Map Icon

Canllaw Archebu

1. Bydd dolen i ffurflen archebu ar-lein ar gyfer y digwyddiad ar-lein wedi'i darparu. Dilynwch y ddolen a chwblhewch y ffurflen archebu.

AGOS X

Polisi Canslo - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl

Hawl TPAS Cymru i Ganslo

Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi