Dydd Iau 29 Ebrill 2021: 2.00pm – 3.30pm
(Digwyddiad am ddim i aelodau TPAS Cymru / Tai Pawb)
Os yw'r 12 mis diwethaf wedi dysgu unrhyw beth inni, mae wedi dysgu ei bod yn bwysig cysylltu â'n cymunedau, a bod creadigrwydd a hyblygrwydd yn allweddol. Mae cymaint o sefydliadau a grwpiau cymunedol wedi gwneud pethau anhygoel, ond sut allwn ni sicrhau bod pawb yn cael eu cynnwys?
Bydd y seminar rhad ac am ddim yma yn rhannu arfer da a dysg o'r flwyddyn ddiwethaf ac yn rhoi cyfle i chi gael sgwrs ag eraill ledled Cymru, ar yr hyn y gallwn ei wneud fel unigolion a sefydliadau i osgoi adeiladu rhwystrau a'i gwneud yn haws i'n tenantiaid / preswylwyr, pwy bynnag ydyn nhw, i gymryd rhan.
Bydd ein siaradwyr gwadd ysbrydoledig yn rhannu eu gwybodaeth a'u dysgu eang:
-
Bydd Natasha Jones Cymdeithas Tai Sir Fynwy yn siarad am ymgysylltu â phobl hŷn trwy'r cyfryngau cymdeithasol.
-
Bydd Jenny Mushiring’ani Monjero - RCT People First yn rhannu ei phrofiad o ymgysylltu / ymgynghori â phobl ag Anableddau Dysgu a Phlant a phobl ifanc.
Mae lleoedd yn brin ar gyfer y digwyddiad cyffrous hwn felly archebwch yn gynnar i gadw eich lle: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZMtc--prjIiE9yowRtoZoc8wdYg_JcHBs5Y

Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Adeiladu Pecyn Cymorth ar gyfer Ymgysylltu Hyblyg a Chynhwysol - Sgwrs
Dyddiad
Dydd Iau
29
Ebrill
2021, 14:00 - 15:30
Archebu Ar gael Tan
Dydd Iau 22 Ebrill 2021
Math o ddigwyddiad
Gwybodaeth a mewnwelediad
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad