Dydd Mawrth, 15 Chwefror: 10.30 – 12pm
MAE'R DIGWYDDIAD YMA YN LLAWN
Mae nawr yn amser da i ailymweld ar ganfyddiadau adroddiad “Y Pethau Iawn” ac ailedrych ac asesu agwedd eich sefydliad at gyfranogiad tenantiaid. A yw eich sefydliad yn cael ‘Y Pethau Iawn’ yn iawn?
Mae adroddiad Bwrdd Rheoleiddiol Cymru (RBW) ‘Y Pethau Iawn - Clywed Llais Tenantiaid’ yn nodi themâu allweddol i landlordiaid cymdeithasol eu hadolygu i sicrhau bod eu hymagwedd at gynnwys tenantiaid yn gadarn ac yn cyflawni canlyniadau cadarnhaol. Bydd y cyfleoedd a nodir yn yr adroddiad hefyd yn rhan o’r Asesiad Rheoleiddiol ac mae’r adroddiad yn ddefnyddiol i denantiaid a defnyddwyr gwasanaeth wrth ddwyn eu landlord i gyfrif.
Yn ystod y gweithdy hanner diwrnod anffurfiol hwn byddwn yn archwilio prif themâu’r adroddiad i’ch helpu i nodi meysydd y mae angen i’ch sefydliad ganolbwyntio arnynt a chyfleoedd i’ch sefydliad gan gynnwys:
-
Pwrpas a Chanlyniadau cyfranogiad – felly beth!? dangos y gwahaniaeth y mae cyfranogiad yn ei wneud?
-
Diwylliant Sefydliadol – creu diwylliant cadarnhaol, wedi’i arwain o’r brig, wedi’i adeiladu ar ymddiriedaeth a didwylledd a sicrhau bod y diwylliant yn cyd-fynd â dull cyfranogiad tenantiaid
-
Gwrando a gweithredu – sut i'w wneud a dangos eich bod chi'n ei wneud?!
-
Gwerth am Arian – a yw eich dull cyfranogi yn rhoi gwerth am arian a sut ydych chi'n gwybod hyn?
Mae'r digwyddiad yn addas ar gyfer staff a thenantiaid ac am ddim i aelodau TPAS Cymru.
MAE'R DIGWYDDIAD YMA YN LLAWN
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Ail-ymweld â’r ‘Pethau Iawn’
Dyddiad
Dydd Mawrth
15
Chwefror
2022, 10:30 - 12:00
Archebu Ar gael Tan
14 Chwefror 2022
Math o ddigwyddiad
Gwybodaeth a mewnwelediad
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
david lloyd
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad