Diolch i bawb a ymunodd â ni ar gyfer ein cynhadledd Creu Lleoedd gyda Phobl ar 30 Mawrth yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd. Roedd yn ddiwrnod gwych a hynod ddiddorol o fewnwelediad a dysgu a gafwyd gan ein siaradwyr a’n cynrychiolwyr fel ei gilydd.

Diolch i bawb a ymunodd â ni ar gyfer ein cynhadledd Creu Lleoedd gyda Phobl ar 30 Mawrth yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd

 

Roedd yn ddiwrnod gwych a hynod ddiddorol o fewnwelediad a dysgu a gafwyd gan ein siaradwyr a’n cynrychiolwyr fel ei gilydd. Hoffem estyn ein diolch gwresog i’r siaradwyr a’r arddangoswyr am ymuno â ni ar y diwrnod ac am ddarparu eich mewnwelediad i sut mae Creu Lleoedd yn trawsnewid cartrefi a chymunedau Cymru wrth i ni ddechrau ar gyfnod newydd o adfywio yn stoc tai Cymru. Hoffem ddiolch unwaith eto i'n Noddwyr am y diwrnod - Y Brifysgol Agored. Ni fyddai wedi bod yn bosibl heb eich cefnogaeth.

Roedd adborth gan denantiaid a staff a fynychodd yn adlewyrchu’r mwynhad a’r angerdd dros Greu Lleoedd gan gynrychiolwyr ar y diwrnod:

“Roedd angerdd rhai o'r siaradwyr yn anhygoel. Doedd gen i ddim syniad o greu lleoedd cyn y gynhadledd ond rwy'n glir am y cyfan nawr."

“Roedd rhywbeth newydd am yr hyn a gyflwynwyd heddiw – trawiadol iawn.”

“Yn ysgogi’r meddwl a sut wrth edrych ar ddatblygiadau newydd, y dylid canolbwyntio ar ymgynghori lleol â’r gymuned ehangach ac y dylem geisio chwalu’r rhwystrau.”

“Heddiw, aeth â mi drwy daith Creu Lleoedd gan ddangos pwysigrwydd pob agwedd o gynllunio, i gyfranogiad cymunedol, a ffynonellau gwybodaeth/rhwydweithio.”

 

Fel yr addawyd ar y diwrnod, mae’r sleidiau y gallwn eu rhannu gan y siaradwyr ar y diwrnod bellach ar gael ar ein gwefan trwy’r dolenni isod:

Cyflwyniad i Greu Lleoedd mewn Tai - Jen Heal, Cynghorydd Dylunio, Comisiwn Dylunio Cymru

Creu Lleoedd yn Pobl - Trawsnewid Strategaeth i Ymarfer - Neil Barber, Cyfarwyddwr Gweithredol - Eiddo a Buddsoddi, Pobl

Cynnwys datblygiad cymunedol yn seiliedig ar asedau mewn Creu Lleoedd - Dave Horton, Cyd-gyfarwyddwr, Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (ACE)

Creu Lleoedd ac arloesedd yn y Brifysgol Agored - Julia David, Rheolwr Partneriaethau, Y Brifysgol Agored

Rhoi pobl wrth galon Cyfathrebiadau Creu Lleoedd - Clare Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr, Grasshopper Communications