Rhoi tenantiaid yn gyntaf: cynnwys tenantiaid yn y materion tai mawr

 

Newyddion cyffrous! Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Cynhadledd Flynyddol TPAS Cymru yn cael ei chynnal ar-lein eleni ddydd Mawrth 16 a dydd Mercher 17 Tachwedd.

Ffocws y gynhadledd yw: Rhoi tenantiaid yn gyntaf: cynnwys tenantiaid yn y materion tai mawr.

Bydd y Gynhadledd yn ymdrin â'r meddwl diweddaraf, y syniadau a'r pynciau tai allweddol ynghyd â myfyrio ar yr hyn y mae Tenantiaid wedi bod yn ei ddweud wrthym yw eu materion a'u pryderon pwysicaf.

Rydym wedi trefnu cyfres wych o siaradwyr o bob rhan o Brydain sydd ag ystod eang o brofiadau a gwybodaeth ymarferol i'w rhannu gyda chi. Mae cynadleddau blynyddol TPAS Cymru wastad yn ysbrydoli cynrychiolwyr i wneud gwahaniaeth trwy roi'r hyn maen nhw wedi'i ddysgu ar waith! Ni fydd eleni yn eithriad!

Mae'r rhaglen llawn ar gael yma - y dyddiad cau ar gyfer archebu yw 3pm, Dydd Iau, 11 Tachwedd

Costau

  • Tocyn 2 ddiwrnod tenant unigol - £59+TAW
  • Tocyn 2 ddiwrnod staff unigol - £79+TAW
  • Tocyn 2 ddiwrnod i unigolion sydd ddim yn aelodau - £99+TAW
  • Tocyn Grŵp Landlord* - £399 +TAW

*I gael mwy o wybodaeth am y Tocyn Grŵp, cliciwch ar y llythyr hwn gan ein Prif Weithredwr 

Noddwyr

Diolch yn fawr i noddwyr ein cynhadledd: 

Noddwyr dydd Mawrth 

Noddwyr dydd Mercher

A heb anghofio ein Noddwyr Arweiniol  

 

Bydd y gynhadledd ar ffurf Gweminar a gallwch gofrestru eich lle trwy glicio ar y ddolen hon:  https://us02web.zoom.us/webinar/register/WN_7zKDk9KJQ5Gjy5XY5e0LhQ

Noder: Dim ond un waith sydd angen i chi gofrestru - bydd eich dolen yn gweithio ar gyfer yr holl sesiynau dros y 2 ddiwrnod.

Ar ôl i chi gofrestru trwy'r ddolen uchod, byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost gyda'r ddolen ymuno yn uniongyrchol gan Zoom ([email protected]) Nid yw'r ddolen ymuno yn dod o gyfeiriad e-bost TPAS Cymru felly efallai y bydd angen i chi wirio eich blychau e-bost sbam / sothach.

Mae'r e-bost gyda dolen ymuno hefyd yn rhoi cyfle i chi arbed y manylion i galendr electronig, fel Outlook


Polisi Canslo - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
  • Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected] Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
  • Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
  • Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
  • Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi