Mae’r adeg o’r flwyddyn yma eto ble y byddwn yn chwilio am enwebiadau ar gyfer Gwobrau Arfer Da blynyddol TPAS Cymru

Gwobrau Arfer Da Cenedlaethol TPAS Cymru 2024

3 Gorffennaf 2024 – Gwesty Leonardo Caerdydd (Jury’s Inn gynt)

Arddangoswch eich gwaith - categorïau newydd sbon - proses enwebu syml!

Byddwch yn rhan o’n gwobrau cenedlaethol yn 2024 – ffordd wych o rannu, cydnabod a dathlu’r gwaith gwych rydych chi a thenantiaid yn ei wneud yn eich sefydliadau a’ch cymunedau

Mae’r adeg o’r flwyddyn yma eto ble y byddwn yn chwilio am enwebiadau ar gyfer Gwobrau Arfer Da blynyddol TPAS Cymru.  Mae gennym ni amrywiaeth wych o gategorïau i chi gystadlu gan gynnwys rhai newydd sbon.

Mae enwebu ar gyfer y Gwobrau yn rhad ac am ddim i aelodau TPAS Cymru ac rydym wedi symleiddio’r broses enwebu.

Unwaith eto eleni, bydd y Seremoni Wobrwyo yn cael ei gynnal yn ystod Cinio Gala gyda'r nos, gan ei wneud yn ddathliad go iawn. Yn ogystal, yn ystod y dydd, byddwn yn cynnal ein Cynhadledd Undydd ar Greu Cymunedau Gwych.  Bydd hwn yn ddigwyddiad ffantastig yn rhannu astudiaethau achos a syniadau ymarferol.  (Mae manylion am y gynhadledd undydd i’w weld yma.)

Eleni, mae gennym ystod wych o gategorïau gan gynnwys rhai newydd sbon.  Am fanylion llawn a’r meini prawf, gweler y Categorïau a’r Meini Prawf  ar gyfer pob categori sydd hefyd wedi eu nodi ar y ffurflenni enwebu unigol isod. Ceir rhagor o awgrymiadau cyffredinol yn y Ddogfen Ganllawiau

Cliciwch y dolenni isod i lawr lwytho’r ffurflenni enwebu unigol ac i ddarllen mwy am feini prawf y beirniadu:

  1. Llais y Tenant - Noddwyd gan Cartrefi Cymoedd Merthyr
  2. NEWYDD Cynnwys Tenantiaid mewn mentrau Amgylcheddol - Noddwyd gan CIH Cymru
  3. Cynnwys Tenantiaid wrth Lunio neu Adolygu Gwasanaethau - Noddwyd gan TCC
  4. Cymunedau'n Cefnogi Cymunedau - Noddwyd gan Cartrefi Conwy
  5. Tîm Tenantiaid y Flwyddyn - Noddwyd gan Tai Taf
  6. Cyfathrebu â Thenantiaid a Phreswylwyr - Noddwyd gan Hough Bellis
  7. Rhaglen Cymorth/Cyngor i Breswylwyr - Noddwyd gan Altair Cyf
  8. NEWYDD Preswylydd/Tenant Ifanc y Flwyddyn - Noddwyd gan Tai Sir Fynwy
  9. Tenant y Flwyddyn - Noddwyd gan Y Brifysgol Agored

Mae’r broses ar gyfer enwebu yn syml:

  • Dewiswch pa gategori yr ydych am ei gyflwyno a lawr lwythwch y ffurflen enwebu berthnasol o’r rhestr uchod
  • Darllenwch y Meini Prawf a’r Canllawiau sydd yn rhoi rhagor o fanylion i chi ar sut i wneud hyn
  • Dychwelwch eich enwebiad erbyn canol dydd, dydd Mawrth 30 Ebrill 2024

Os fydd eich cais yn cyrraedd y rhestr fer, byddwn yn rhoi gwybod i chi ymlaen llaw fel y gallwch drefnu i fod yn y Cinio Gala.