Sut gallwn ni barhau i greu cymunedau gwych yn ystod y cyfnod heriol presennol?

 

Cynhadledd Genedlaethol Undydd Creu Cymunedau Gwych

Sut gallwn ni barhau i greu cymunedau gwych yn ystod y cyfnod heriol presennol?

3 Gorffennaf 2024 – Gwesty Leonardo, canol dinas Caerdydd (*gweler ‘disgownt pellter’) 10.00am – 3.30pm. Darperir lluniaeth a chinio bwffe

Yn dilyn cynhadledd undydd lwyddiannus y llynedd, mae’n bleser gennym gyhoeddi’r rhaglen wych ar gyfer digwyddiad Creu Cymunedau Gwych eleni sy’n addas ar gyfer gwirfoddolwyr a staff.

Beth ydyw? Bydd y gynhadledd 1 diwrnod hanfodol hon yn edrych ar arfer gorau a dulliau gweithredu o ran ‘Creu Cymunedau Gwych’, yn enwedig yn ystod y cyfnod heriol presennol. Bydd yr amserlen orlawn yn cynnwys siaradwyr ysbrydoledig ac astudiaethau achos ymarferol go iawn o amrywiaeth o brosiectau a mentrau cymunedol gan gynnwys: grŵp o denantiaid a phreswylwyr a ddaeth ynghyd i wneud eu cymuned yn lle gwell i fyw; prosiect ‘Pontio’r Cenedlaethau’ sy’n helpu i adeiladu cymunedau cryfach; sut i ddatblygu cyd-ddealltwriaeth a dadansoddiad o sut mae systemau economaidd yn gweithio i adeiladu grym cymunedau a chreu newid economaidd; a phanel o arbenigwyr a fydd yn rhoi eu barn ar sut i adeiladu cymunedau gwych yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Pwy ddylai fynychu? Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn hanfodol i landlordiaid cymdeithasol, preswylwyr, sefydliadau trydydd sector, gwirfoddolwyr cymunedol, asiantaethau statudol, elusennau, a grwpiau gwirfoddol, felly byddwch yn rhan ohono ac archebwch eich lle nawr.

Pam ddylwn i fynychu? Bydd y digwyddiad hwn yn ysgogi, yn ysbrydoli ac yn hysbysu pawb sy'n mynychu.

  • Clywch gan siaradwyr craff ac amserol ar y syniadau diweddaraf.
  • Cyfle i rwydweithio a chwrdd ag eraill sy'n gweithio mewn cymunedau ledled Cymru.
  • Rhannu arfer gorau rhagorol ac astudiaethau achos ymarferol.

GWELER EIN RHAGLEN DDIWEDDARAF YMA (rhagor o siaradwyr i'w cyhoeddi)

Ymunwch â ni ar gyfer ein digwyddiad hamddenol ac anffurfiol, gyda ffocws mawr ar roi llawer o syniadau i chi fynd gyda chi a'r amser a'r lle i gwrdd ag eraill.

Noder:

  • Mae lleoedd yn gyfyngedig i'n galluogi i gynnig cynllun ystafell arddull cabaret i helpu gyda'ch cysur a chyfleoedd rhwydweithio.
  • Mae gennym *gostyngiad pellter arbennig ar y pris i'r archebion hynny gan sefydliadau sydd wedi'u lleoli 50 milltir neu fwy o'r lleoliad.
  • Byddwn yn cynnal ein Seremoni Wobrwyo Arfer Da Blynyddol gyda’r nos ac felly mae opsiwn arbed i’r rhai sy’n dymuno mynychu’r ddau ddigwyddiad.  Rhagor o fanylion am ein Gwobrau yma

I gael manylion am opsiynau archebu, costau ac i archebu lle, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen archebu hon

 


Telerau ac Amodau Canslo

  • Nid yw’r prisiau yn cynnwys TAW
  • Nid yw’r opsiynau yn cynnwys llety dros nos. Os ydych eisiau aros yn y gwesty, bydd angen i chi archebu hyn yn uniongyrchol â’r gwesty drwy ffonio 0292 078 5590
  • Mae’r *disgownt pellter yn berthnasol i’r sefydliadau sydd wedi eu lleoli 50 milltir neu fwy i ffwrdd o’r lleoliad
  • NI ALL TPAS Cymru dderbyn archebion dros dro.
  • Mae angen cadarnhad ysgrifenedig ar gyfer pob canslad.  Bydd cansladau a dderbynnir cyn y dyddiad cau o 21 Mehefin 2024 yn cael eu had-dalu, minws ffi weinyddu o £30.00.  Ni fydd unrhyw ad-daliadau ar ôl y dyddiad hwn.
  • Bydd cynrychiolwyr cofrestredig nad ydynt yn mynychu'r gynhadledd yn atebol i dalu yn llawn oni bai ein bod wedi derbyn cadarnhad ysgrifenedig erbyn y dyddiad canslo.
  •  Bydd unrhyw newidiadau, megis enwau, a wneir i archebion ar ôl 21 Mehefin 2024 yn derbyn ffi weinyddol o £15.00 + TAW fesul newid. 
  • Efallai y bydd rhaid i TPAS Cymru ganslo'r digwyddiad hwn. Yn yr achos yma, byddwn yn ad-dalu unrhyw daliadau a dderbyniwyd. Ni fyddwn yn ad-dalu unrhyw gostau y gallech fynd iddynt o ganlyniad i'r canslad.

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Cynhadledd Genedlaethol Undydd Creu Cymunedau Gwych

Dyddiad

Dydd Mercher 03 Gorffennaf 2024, 10:00 - 15:30

Archebu Ar gael Tan

Dydd Gwener 21 Mehefin 2024

Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan

Math o ddigwyddiad

Yn addas ar gyfer

I gyd

Siaradwr

Guest Speaker

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Leonardo Hotel Cardiff (formerly Jury's Inn)

Cyfeiriad y Lleoliad

1 Park Place
Cardiff
CF10 3DN

0292 078 5590

Google Map Icon

Enw
Cyfeiriad ebost


Mae'r archebu ar-lein ar gyfer y digwyddiad wedi cau. I archebu digwyddiad hwn, ffoniwch ni ar 029 2023 7303 neu 01492 593046

Canllaw Archebu

1. Rhowch eich Enw a'ch cyfeiriad E-bost, a dewiswch faint o docynnau yr hoffech eu harchebu, yna cliciwch ar 'Parhau i Archebu'.

2. Os ydych yn archebu 1 tocyn, rhowch eich manylion a chliciwch "Arbed a Chadarnhau eich Archeb". Yna fe welwch eich manylion yn y blwch oren ar y gwaelod.

3. Os ydych wedi dewis mwy nag 1 tocyn, rhowch fanylion y cynrychiolwr cyntaf fel yng Ngham 2, cliciwch "Arbed a Chadarnhau eich Archeb" a sgroliwch yn ôl i fyny i roi manylion eich ail gynrychiolwr. Ailadroddwch Gam 3 nes bod eich holl gynrychiolwyr wedi eu hychwanegu.

4. Unwaith y byddwch wedi ychwanegu gwybodaeth am eich holl gynrychiolwyr, fe welwch y botwm "Ychwanegu Cynrychiolwr" yn newid i "Arbed a Chadarnhau eich Archeb". Unwaith y byddwch yn clicio’r bowm yma, fe welwch flwch gwyrdd gyda "Llwyddiant" yn ymddangos ar eich sgrîn, a byddwch yn derbyn cadarnhad trwy e-bost eich bod wedi archebu yn llwyddiannus.

5. Gellir talu am y digwyddiad trwy BACs, neu fe fydd TPAS Cymru yn anfon anfoneb ar ôl y digwyddiad gymryd lle.

Os oes unrhyw broblemau gyda'ch archeb, mae croeso i chi ein ffonio ar 029 2023 7303 neu 01492 59304

AGOS X

Cancellation Terms & Conditions

  • All prices are exclusive of VAT
  • Options do not include accommodation. If you wish to stay at this hotel you will need to book this direct with them on 0292 078 5590.
  • The *distance discount applies to those bookings from organisations based 50 miles or more from the venue
  • TPAS Cymru CANNOT accept any provisional bookings.
  • Written confirmation is required for all cancellations.  Cancellations received before the date of 23 June 2023 will be refunded, minus an administration fee of £30.00.  No refunds will be processed after this date.
  • Registered delegates who do not attend the event will be liable for payment in full unless written communication is received by the cancellation date.
  • Any changes, such as names, made to the bookings after 23 June 2023 will incur an administration fee of £15.00 plus VAT per change. 
  • TPAS Cymru may have to cancel this event.  In this case we will refund any payments received.  We will not refund any costs you may incur as a result of the cancellation.