Oeddech chi’n gwybod fod Llywodraeth Cymru wedi lansio Adnodd Cymharu Cymdeithasau Tai newydd ar eu gwefan?
Mae’r adnodd cymharu yn rhoi’r gallu i denantiaid weld sut mae perfformiad eu landlord yn cymharu ag eraill.
Byddwch yn gallu cymharu sut mae eich landlord yn perfformio o gymharu â Chymdeithasau Tai eraill ledled Cymru. Mae'r data a welwch yn amrywiol ac mae'n cynnwys y canlynol:
• Gwybodaeth gyffredinol am y Gymdeithas Tai, megis nifer o unedau, nifer o staff ac ati
• Gwybodaeth ariannol gan gynnwys cost y rhent, costau atgyweirio, costau rheoli
• Graddfeydd Bodlonrwydd Tenantiaid am wahanol agweddau o wasanaethau tai
Byddwch hefyd yn gallu gweld data am gydymffurfiad Safon Ansawdd Tai Cymru - gan gynnwys y canran o dai sydd yn cydymffurfio’n llawn â’r safon.
*Noder - Mae Cymdeithasau Tai yn casglu data mewn gwahanol ffyrdd, sydd weithiau yn golygu nad yw’n bosib gwneud cymhariaeth uniongyrchol rhwng landlordiaid gwahanol. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu gwestiynau, cysylltwch â’ch landlord yn y lle cyntaf.