Mae'r adroddiad hwn yn archwilio gwybodaeth ac ymwybyddiaeth tenantiaid yng Nghymru, mewn perthynas â'r heriau amgylcheddol.

Llais Tenantiaid ar Newid yn yr Hinsawdd a Datgarboneiddio Cartrefi

Pwls Tenantiaid yw'r panel tenantiaid Cymru-Eang swyddogol sy'n rhoi eu barn ar y pethau sy'n bwysig iddyn nhw. Fe’i crëwyd gan TPAS Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Mae'n cynnwys tenantiaid tai cymdeithasol (Cymdeithasau Tai a thai Cyngor) ynghyd â Rhentwyr Preifat gan gynnwys myfyrwyr a'r rheini mewn Tai â Chefnogaeth. Os ydych yn denant, pam na wnewch chi ddarganfod mwy am Pwls Tenantiaid?

Mae'r adroddiad hwn yn archwilio gwybodaeth ac ymwybyddiaeth tenantiaid yng Nghymru, mewn perthynas â'r heriau amgylcheddol. Mae'n ymchwilio i agweddau a chanfyddiadau o'r newid i dechnolegau carbon isel ac ymddygiadau sy'n ymwybodol o garbon yn seiliedig ar grwpiau cymdeithasol-ddemograffig. Mae ein dadansoddiad yn tanlinellu pwysigrwydd creu mwy o ymwybyddiaeth ac addysgu tenantiaid o'r effaith y mae tai yn ei chael ar allyriadau hinsawdd a buddion technolegau newydd. Mae'n pwysleisio gwahanol ganfyddiadau yn seiliedig ar oedran, lefel addysg, statws cyflogaeth a deiliadaeth, tra hefyd yn ystyried y dulliau ymgysylltu wrth weithio gyda thenantiaid i ddatgarboneiddio cartrefi yng Nghymru.

Ymatebodd 302 o denantiaid i'r arolwg hwn o bob un o'r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru. Er ein bod yn cydnabod nad yw hyn yn gynrychioliadol o'r boblogaeth tenantiaid gyfan, rydym yn hyderus bod y canfyddiadau'n cynnig mewnwelediad gwerthfawr.

Gweler yr adroddiad llawn yma

Gweler crynodeb o’r adroddiad yma

Hoffai TPAS Cymru ddiolch i'r holl denantiaid a roddodd eu hamser i gwblhau'r arolygon. Rydym wir yn gwerthfawrogi eich amser.

Mae Pwls Tenantiaid yn rhan o'n gwaith Llais Tenantiaid a noddir gan