Mae ein pwls Tenantiaid diweddaraf yn canolbwyntio ar un o'r materion mwyaf ym maes Tai ar hyn o bryd, sef ymgynghoriad rhent a gosod rhent

Mae ein hail Arolwg Ymgynghori Gosod Rhenti nawr yn fyw!

Mae ein pwls Tenantiaid diweddaraf yn canolbwyntio ar un o'r materion mwyaf ym maes Tai ar hyn o bryd, sef ymgynghoriad rhent a gosod rhent. Rydym yn falch o allu cyhoeddi ein hadroddiad i'r cyhoedd gyda'n mewnwelediadau.

Mae ein hadroddiadau Pwls Tenantiaid yn cynnig cipolwg ar feddyliau a chanfyddiadau tenantiaid ledled Cymru ac mae'r adroddiad hwn yn adlewyrchu hynny. Mae ein Harolwg Ymgynghori ar Gosod Rhenti yn adlewyrchu lleisiau tenantiaid o bob un o’r 22 ardal Awdurdod Lleol yng Nghymru ac o ystod eang o gefndiroedd.

Credwn fod y canfyddiadau a’r argymhellion yn cynnig cipolwg gwerthfawr ar yr heriau y mae tenantiaid yn eu hwynebu ar hyn o bryd, a sut mae tenantiaid yn teimlo am eu cartrefi a’u rhent ar yr adeg hollbwysig hon wrth i ni gerdded drwy’r argyfwng costau byw fel cymdeithas. Yn wahanol i’r llynedd, rydym wedi ystyried taliadau gwasanaeth a chyfathrebu landlordiaid ynghylch newidiadau rhent a chaledi ariannol. 

Pwls Tenantiaid yw panel swyddogol Cymru gyfan ar gyfer tenantiaid sy’n rhoi eu barn ar y pethau sy’n bwysig iddyn nhw. Cafodd ei greu 5 mlynedd yn ôl gan TPAS Cymru (o dan raglen waith a gefnogir gan Lywodraeth Cymru). Mae’n cael ei redeg bob chwarter ar faterion cyfoes i helpu i lunio polisi tai yng Nghymru. Mae'n cynnwys tenantiaid tai cymdeithasol (Cymdeithasau Tai a thai Cyngor) yn ogystal â rhentwyr preifat a'r rheini mewn tai â chymorth

Enw'r adroddiad: Yr Ail Arolwg Ymgynghori ar Osod Rhenti Blynyddol. 

Awdur arweiniol: Elizabeth Taylor 

Llongyfarchiadau i enillwyr y raffl ar gyfer y Pwls yma. Yr enillwyr yw:

  • Burnie - tenant Cymdeithas Tai o Gonwy
  • Nicky - tenant Awdurdod Lleol o Gaerffilli

Hoffai TPAS Cymru ddiolch i'r holl denantiaid a roddodd o'u hamser i gwblhau'r arolygon. Rydym wir yn gwerthfawrogi eich amser.

Mae Pwls Tenantiaid yn rhan o'n gwaith Llais y Tenant a noddir gan: