Rhoddodd dros 700 o denantiaid eu barn ar yr argyfwng ynni a'r llwybr i Sero Net. Mae ein Harolwg Pwls Tenantiaid Cenedlaethol yn archwilio pynciau ac yn rhoi mewnwelediad ac argymhellion.

Pwls Tenantiaid Cymru Gyfan: 2il Arolwg Blynyddol ar agweddau at yr Argyfwng Ynni a Sero Net

Mae ein pwls Tenantiaid diweddaraf yn canolbwyntio ar argyfwng ynni ac agweddau at Sero Net. Dyma'r eildro i ni gynnal y math hwn o arolwg. Gan fod yr argyfwng ynni yn newid yn gyflym, ni fyddwn yn aros am flwyddyn gyfan i ailadrodd yr arolwg llawn hwn. Rydym yn bwriadu gwneud pwls llai dros y gaeaf yn canolbwyntio'n unig ar argyfwng ynni.

Cawsom yr 2il gyfradd ymateb fwyaf hyd yma ar gyfer Pwls Tenantiaid gyda dros 700 o denantiaid tai cymdeithasol a thenantiaid preifat. Roeddem yn falch iawn o gael demograffig eang o denantiaid, gan gynnwys codiad nodedig yn nifer y rhentwyr preifat iau a ymatebodd.

Credwn fod y canfyddiadau a'r argymhellion yn cynnig mewnwelediad gwerthfawr i'r heriau y mae tenantiaid yn eu profi a sut mae tenantiaid yn teimlo am eu cartrefi a'u cymunedau.

Pwls Tenantiaid  yw'r panel swyddogol ledled Cymru ar gyfer tenantiaid sy'n rhoi eu barn ar y pethau sy'n bwysig iddyn nhw. Fe’i crëwyd 4 blynedd yn ôl gan TPAS Cymru o dan raglen o waith a gefnogir gan Lywodraeth Cymru. Mae'n rhedeg bob chwarter ar faterion amserol ac yn helpu i lunio polisi tai yng Nghymru. Mae'n cynnwys tenantiaid tai cymdeithasol (Cymdeithasau Tai a thai Cyngor) ynghyd â rhentwyr preifat gan gynnwys myfyrwyr a'r rheini mewn tai â chymorth.

Os ydych yn denant, pam na wnewch chi ymuno â’n panel Pwls Tenantiaid a chael dweud eich dweud? 

ENW'R ADRODDIAD: Pwls Tenantiaid Cymru Gyfan: 2il Arolwg Blynyddol ar agweddau at yr Argyfwng Ynni a Sero Net

Gweler yr Adroddiad llawn yma 

Awduron Arweiniol: Hannah Richardson, Eleanor Speer a David Wilton 

Hoffai TPAS Cymru ddiolch i'r holl denantiaid a roddodd eu hamser i gwblhau'r arolygon. Rydym wir yn gwerthfawrogi eich amser.

Mae Pwls Tenantiaid yn rhan o'n gwaith Llais Tenantiaid a noddir gan 

Buom yn trafod ein canfyddiadau Pwls Tenantiaid o’r arolwg hwn yn ystod ein Rhwydwaith Tenantiaid ym mis Medi 2022, a chlywsom rywfaint o adborth gan denantiaid ar yr arolwg. Gan fod yr arolwg Pwls hwn wedi’i gynnal cyn y cynnydd mawr mewn costau ynni, mae gennym ddiddordeb mewn cynnal arolwg Pwls llai yn nes ymlaen yn ystod misoedd y gaeaf i gael golwg agosach ar sut mae tenantiaid yn delio â’r argyfwng costau byw. I’r rhai sydd eisiau trosolwg byrrach, dyma ddec sleidiau syml a rannwyd gyda thenantiaid yn Rhwydwaith Tenantiaid Cymru Gyfan TPAS Cymru ar 20 Medi:  https://tpascymru-my.sharepoint.com/:p:/g/personal/drw_tpas_cymru/Eb_y-jUXfqlIvEQ2d1CwoiUBwbv-07Xv2xhO1bTKEylLYA?e=VJ7KYg

Ymholiadau gan y cyfryngau: Mae gennym ddeunydd ar gyfer y cyfryngau ynghyd â llefarwyr yn y Gymraeg a'r Saesneg. Cysylltwch ag [email protected] 

Tryloywder y Gwobr Raffl

Fel diolch am gwblhau'r arolwg, gall tenantiaid ddewis i geisio am wobr raffl. Mae'r data hwn yn cael ei ddal ar wahân i'r arolwg dienw.

Yr enillwyr ar gyfer y Pwls hwn yw:

  1. D. Blake, Tenant o Gyngor Bro Morgannwg
  2. K. Wood, Tenant o Cartrefi Dinas Casnewydd
  3. L. Massie, Rhentwr Preifat o Sir y Fflint

Derbyniodd pob un focs o gynnyrch Cymreig ffres gan https://www.daffodilfoods.co.uk/

Fe'u hysbyswyd a bydd eu gwobrau'n cael eu hanfon yn fuan.