Mae ein hadroddiadau Pwls Tenantiaid yn cynnig cipolwg ar feddyliau a chanfyddiadau tenantiaid ledled Cymru ac mae'r adroddiad hwn yn adlewyrchu hynny

Trydydd Arolwg Tenantiaid Blynyddol Cymru Gyfan – Yr hyn sy’n bwysig ar hyn o bryd

Mae ein hadroddiadau Pwls Tenantiaid yn cynnig cipolwg ar feddyliau a chanfyddiadau tenantiaid ledled Cymru ac mae'r adroddiad hwn yn adlewyrchu hynny. Mae ein trydydd Arolwg Tenantiaid Blynyddol yn adlewyrchu lleisiau tenantiaid ym mhob sir yng Nghymru ac o ystod eang o gefndiroedd.

Credwn fod y canfyddiadau a’r argymhellion yn cynnig cipolwg gwerthfawr ar yr heriau y mae tenantiaid yn eu hwynebu ar hyn o bryd, a sut mae tenantiaid yn teimlo ac yn ymateb i’r argyfyngau presennol o ran costau byw, ynni a fforddiadwyedd.

Pwls Tenantiaid yw panel swyddogol Cymru gyfan ar gyfer tenantiaid sy’n rhoi eu barn ar y pethau sy’n bwysig iddyn nhw. Cafodd ei greu 5 mlynedd yn ôl gan TPAS Cymru (o dan raglen waith a gefnogir gan Lywodraeth Cymru). Mae’n cael ei redeg bob chwarter ar faterion cyfoes i helpu i lunio polisi tai yng Nghymru. Mae'n cynnwys tenantiaid tai cymdeithasol (Cymdeithasau Tai a thai Cyngor) yn ogystal â rhentwyr preifat a'r rhai mewn tai â chymorth.

Os ydych yn denant, pam na wnewch chi ymuno â'n Pwls Tenantiaid i ddweud eich dweud? 

Enw'r Adroddiad: Trydydd Arolwg Tenantiaid Blynyddol Cymru Gyfan – Yr hyn sy’n bwysig ar hyn o bryd

Dyma'r ddolen i'r adroddiad llawn

Awduron Arweiniol: David Wilton ac Eleanor Speer

 

Hoffai TPAS Cymru ddiolch i'r holl denantiaid a roddodd o'u hamser i gwblhau'r arolygon. Rydym wir yn gwerthfawrogi eich amser.

I weld recordiad ein digwyddiad dadfriffio Arolwg Tenantiaid Blynyddol, cliciwch yma.

Mae Pwls Tenantiaid yn rhan o'n gwaith Llais y Tenant a noddir gan 

Enillwyr y raffl y tro hwn oedd:

  • Brian Strefford - tenant ClwydAlyn 
  • Howard Pinney - tenant Cyngor Powys 
  • Frank Rae - tenant y sector breifat o Gaerdydd

BRYS

Mewn tai, mae dwy broblem fawr:

 

  • Nid oes digon o dai cymdeithasol ar gyfer y rhai mewn angen. Rhaid gwneud blaenoriaethau.
  • Mae digartrefedd yn fater mawr, ofnadwy. Mae'n ofnadwy i'r rhai yr effeithir arnynt ac mae'r effaith ganlyniadol ar y GIG, gwasanaethau cymdeithasol, addysg plant ac ati yn enfawr.

Fel cymdeithas mae angen inni roi diwedd ar ddigartrefedd. Mae panel arbenigol o bobl sy'n gweithio ym maes digartrefedd wedi llunio argymhellion - ac un ohonynt yw newid y polisi gosod tai - gan wneud digartrefedd yn brif flaenoriaeth.

Gwych - i bawb sy'n cael eu rhoi ar y brig, ond dim cymaint i'r rhai sydd angen symud i lawr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn yn benodol i ni gysylltu â thenantiaid presennol i sicrhau bod eich lleisiau yn cael eu cynnwys yn yr ymgynghoriad diweddaraf.

Sut ydych chi'n teimlo am y diwygiadau hyn? Mae gennym bwls tenantiaid byr i chi yma!