Mae sicrhau bod cartrefi yn ddiogel yn hanfodol er mwyn cadw tenantiaid yn ddiogel ac iddynt deimlo'n ddiogel. Ymunwch â'r cyfle unigryw hwn i archwilio'r materion a'r cyfleoedd i gadw cartrefi a thenantiaid yn ddiogel.

 


Mae sicrhau bod cartrefi yn ddiogel yn hanfodol er mwyn cadw tenantiaid yn ddiogel ac iddynt deimlo'n ddiogel.  Mae Papur Gwyn Llywodraeth Cymru Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru yn nodi newidiadau arfaethedig a fydd yn cyfrannu at ddiogelwch adeiladau yng Nghymru. Yn ogystal â newidiadau mewn deddfwriaeth diogelwch adeiladau, bydd angen i'r sector tai cymdeithasol fabwysiadu arferion newydd, gan gynnwys ymgysylltu â thenantiaid ar Iechyd a Diogelwch, a datblygu'r diwylliant sefydliadol cywir a fydd yn gweithio i gadw cartrefi a thenantiaid yng Nghymru yn ddiogel.

Dyma gyfle unigryw i archwilio'r materion, y cyfleoedd a'r arloesedd sydd eu hangen i wella iechyd a diogelwch landlordiaid a chadw cartrefi a thenantiaid yn ddiogel.  Byddwch yn clywed gan ystod o siaradwyr gwadd gwych, a fydd yn darparu diweddariadau polisi ac yn rhannu arfer da cyfoes. Byddwch yn cael mewnwelediadau amhrisiadwy i un o'r newidiadau allweddol sy'n wynebu tai cymdeithasol yng Nghymru.


Byddwn yn cynnal sesiwn wahanol bob dydd:

Dydd Llun 11 Hydref: Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru – beth mae hyn yn ei olygu i chi (Gweminar Sesiwn Panel)

Ymunwch â ni ar gyfer gweminar agoriadol wythnos Iechyd a Diogelwch TPAS Cymru. Sesiwn Panel yw'r sesiwn gyntaf hon gyda 4 siaradwr gwadd ysbrydoledig ac addysgiadol gan gynnwys:

  • Gill Kernick, awdures “Catastrophe and Systemic Change: Learning from the Grenfell Tower Fire and Other Disasters”
  • Michael Corrigan, Rheolwr Polisi Diwygio Preswylwyr, Llywodraeth Cymru
  • Matt Kennedy, Sefydliad Tai Siartredig Cymru
  • Clarissa Corbisiero, Tai Cymunedol Cymru

Ceir y manylion llawn a dolen archebu yma


Dydd Mawrth 12 Hydref: Cynnwys Tenantiaid mewn Materion Iechyd a Diogelwch (Gweminar Sesiwn Panel)

Mae ein hail ddigwyddiad o Wythnos Iechyd a Diogelwch yn rhoi cyfle cyffrous i glywed gan 3 landlord cymdeithasol yn Lloegr sydd wedi bod yn gweithio’n agos gyda’u tenantiaid / preswylwyr mewn perthynas â materion iechyd a diogelwch:

  • Verity Calderbank, Stockport Homes
  • Janine Greenall, Torus
  • Alicia Munroe a Gavin Rumble, swyddogion Phoenix Housing ac un o'u preswylwyr, Monique Chang
  • Paul Clasby, Cadeirydd Grŵp Monitro Barcud

Ceir y manylion llawn a dolen archebu yma


Dydd Mercher 13 Hydref (a.m): Fforwm Staff Iechyd a Diogelwch

Mae'r digwyddiad yn rhoi cyfle i chi gwrdd ag eraill sy'n gweithio ym maes Iechyd a Diogelwch i rannu dysgu ac arfer da wrth sicrhau diogelwch tenantiaid a phreswylwyr

Ceir y manylion llawn a dolen archebu yma


Dydd Mercher 13 Hydref (p.m): Rhwydwaith Tenantiaid – Iechyd a Diogelwch a’ch Landlord

Fel rhan o wythnos Iechyd a Diogelwch TPAS Cymru, bydd Rhwydwaith Tenantiaid mis Hydref yn canolbwyntio ar sut mae eich landlord yn cynnwys tenantiaid mewn materion iechyd a diogelwch landlordiaid.  Beth yw’r meysydd pryder i denantiaid a pha wybodaeth sydd ei hangen ar denantiaid am iechyd a diogelwch landlordiaid?Ceir y manylion llawn a dolen archebu yma


Dydd Iau 14 Hydref:  Cyfathrebiadau Iechyd a Diogelwch Landlordiaid: eu cael yn iawn i denantiaid

Mae sicrhau bod cyfathrebiadau Iechyd a Diogelwch Landlord eich sefydliad yn iawn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod tenantiaid yn ddiogel ac yn teimlo'n ddiogel. Ymunwch â ni am sesiwn anffurfiol ar ffurf gweithdy lle byddwn yn archwilio syniadau ar gyfer datblygu cyfathrebiadau Iechyd a Diogelwch effeithiol; o ganllawiau diogelwch ymarferol i gyfathrebiadau sy'n eich galluogi i fod yn atebol am gydymffurfiaeth a pherfformiad Iechyd a Diogelwch eich sefydliad.

Ceir y manylion llawn a dolen archebu yma

 

Diolch i FireAngel am noddi ein wythnos Iechyd a Diogelwch