Dydd Mawrth 12 Hydref: 10.30am – 12.30pm
Mae ein hail ddigwyddiad o Wythnos Iechyd a Diogelwch yn rhoi cyfle cyffrous i glywed gan 3 landlord cymdeithasol yn Lloegr ac 1 grŵp tenantiaid yng Nghymru sydd wedi bod yn gweithio’n agos gyda’u tenantiaid / preswylwyr mewn perthynas â materion iechyd a diogelwch.
Bydd Verity Calderbank, Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu Stockport Housing Group yn cyflwyno sut y datblygwyd ac y cydnabuwyd ymgyrch i ôl-ffitio chwistrellwyr fel dull arobryn. Dewch i glywed am y canllawiau clir a ddarperir gan SHG i gwsmeriaid, sut roeddent yn ymgynghori â phreswylwyr, ac yn darparu gwybodaeth a sicrwydd i gwsmeriaid yn gyffredinol. Bydd Verity hefyd yn siarad am sut y gellid defnyddio'r model hwn mewn ystod o ymgyrchoedd / cyfathrebiadau â thenantiaid.
Bydd Torus yn rhannu eu profiad o greu ‘Your Home Your Safety Guide’, llyfryn i denantiaid, a ddatblygwyd gyda thenantiaid, mewn ymateb i’r digwyddiadau trasig yn Nhŵr Grenfell a’r papur Gwyn Tai Cymdeithasol. Agwedd allweddol ar y prosiect oedd ymgysylltu â thenantiaid drwyddo draw, o'r cysyniad cychwynnol i ddylunio ac argraffu. Mae'r canllaw yn amlinellu gwybodaeth ddiogelwch ac yn egluro cyfrifoldeb Torus a'r tenantnt.
Bydd Alicia Munroe, Gavin Rumble a Monique Chang, un o breswylwyr Phoenix Community Housing a leolir yn ne Llundain, yn siarad am eu prosiectau arloesol a ddyluniwyd i hysbysu ac ymgynghori â thenantiaid a phreswylwyr am fod yn ddiogel yn eu cartrefi. Cewch glywed am Academi Phoenix a sut mae iechyd a diogelwch yn rhan o raglen addysg lefel 1 CIH a gynigir i breswylwyr Tai Cymunedol Phoenix.
A HEFYD, cewch glywed gan Paul Clasby ar sut mae Barcud Cyf, Tai Ceredigion a Chymdeithas Tai Canolbarth Cymru gynt, yn cynnwys eu grŵp tenantiaid ym maes Iechyd a Diogelwch. Mae Paul yn denant ac yn Gadeirydd etholedig Grwp Monitro Barcud, y corff tenantiaid annibynnol ar gyfer tenantiaid a lesddeiliaid Barcud Cyf.
Cost:
Tenantiaid: £29 + TAW
Staff (aelodau): £49 + TAW
Staff (pawb arall): £89 + TAW
Archebwch eich lle drwy’r ddolen Zoom yma: https://us02web.zoom.us/webinar/register/WN_zlPNCLhcTUamLwlUUKnJ8A
Noder: ar ôl i chi gofrestru gan trwy'r ddolen hon byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost gyda'r ddolen ymuno yn uniongyrchol gan Zoom ([email protected]) Nid yw'r ddolen ymuno yn dod o gyfeiriad e-bost TPAS Cymru felly efallai y bydd angen i chi wirio eich blychau e-bost sbam / sothach.
Mae'r e-bost gyda dolen ymuno hefyd yn rhoi cyfle i chi arbed y manylion i galendr electronig, fel Outlook
Polisi Canslo - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
-
Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected] Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
-
Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
-
Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
-
Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Cynnwys Tenantiaid mewn Materion Iechyd a Diogelwch
Dyddiad
Dydd Mawrth
12
Hydref
2021, 10:30 - 12:30
Archebu Ar gael Tan
Dydd Iau 07 Hydref 2021
Math o ddigwyddiad
Gwybodaeth a mewnwelediad
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad