Beth yw Safon Rhent a Thaliadau Gwasanaeth Llywodraeth Cymru?

Safon Rhent a Thaliadau Gwasanaeth 2023-2024 (Agenda: Rhifyn 16)

Pynciau i Grwpiau Tenantiaid eu trafod gyda'u landlord

Mae rhai grwpiau tenantiaid wedi gofyn inni am eitemau agenda amserol / sesiynau briffio pwnc i'w grŵp tenantiaid eu trafod â'u landlord.  Mae TPAS Cymru wedi creu cyfres friffio yr ydym yn ei galw’n ‘Agenda’ sy’n darparu grwpiau tenantiaid efo trosolwg o bwnc ac yn awgrymu cwestiynau y gallech eu gofyn wrth i chi ymgysylltu â’ch landlord.

Beth yw Safon Rhent a Thaliadau Gwasanaeth Llywodraeth Cymru?

Mae angen i Landlordiaid Cymdeithasol* yng Nghymru osod eu rhent a’u taliadau gwasanaeth yn unol â’r rheolau a’r canllawiau a nodir yn Safon Rhent a Thaliadau Gwasanaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Tai Cymdeithasol (Safon Rhent a Thaliadau Gwasanaeth 2020 - 2025).

Cytunwyd ar y Safon Rhent a Thaliadau Gwasanaeth i gydnabod y bydd cael cytundeb hirdymor ar sut y gellir pennu rhenti cymdeithasol a thaliadau gwasanaeth bob blwyddyn, yn rhoi sicrwydd i denantiaid ynghylch lefelau rhent, a hefyd i landlordiaid cymdeithasol gefnogi’r benthyca ariannol y maent eu hangen i helpu i ddarparu mwy o gartrefi fforddiadwy.

* Mae’r safon rhent ar gyfer landlordiaid cymdeithasol ag anghenion cyffredinol a thai gwarchod. Nid yw'n berthnasol i:

  • tai gofal ychwanegol
  • tai â chymorth
  • unrhyw unedau tai nad ydynt yn hunangynhwysol
  • tai a osodwyd ar lefelau rhent canolraddol;
  • mathau arbenigol eraill o dai

Beth yw’r prif Reolau yn Safon Rhent a Thaliadau Gwasanaeth Llywodraeth Cymru?

O dan y Safon Rhent a Thaliadau Gwasanaeth pum mlynedd, a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2020, mae nifer o reolau y mae angen i landlordiaid gydymffurfio â nhw wrth osod rhenti a thaliadau gwasanaeth. Mae llawer o’r rheolau’n seiliedig ar y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI)*

*Cyhoeddir y CPI gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae'n mesur y newid cyfartalog o fis i fis ym mhrisiau nwyddau a gwasanaethau a brynir gan y rhan fwyaf o gartrefi yn y DU. Mae'r llywodraeth yn defnyddio'r CPI fel sail ar gyfer ei tharged chwyddiant ac ar gyfer uwchraddio pensiynau'r wladwriaeth a budd-daliadau'r wladwriaeth.

Mewn blynyddoedd blaenorol CPI+1% oedd yr uchafswm cynnydd rhent cyffredinol a ganiateir mewn unrhyw un flwyddyn - ond nid oedd CPI+1% i’w ystyried fel codiad awtomatig i’w gymhwyso gan landlordiaid cymdeithasol.

Roedd y Safon Rhent hefyd yn nodi “Os bydd CPI y tu allan i'r ystod o "0% i 3%", Gweinidogion Cymru fydd yn gyfrifol am bennu’r cynnydd sy’n briodol i lefelau rhent ar gyfer y flwyddyn honno.”

Oherwydd lefel gynyddol chwyddiant yn y DU yn 2022, roedd mynegai CPI mis Medi yn 10.1%, sydd y tu hwnt i’r ystod CPI y mae’r safon yn gweithio o’i fewn (CPI+1). Roedd hyn yn golygu bod yn rhaid i Weinidog Llywodraeth Cymru wneud penderfyniad ar yr uchafswm cynnydd rhent cyffredinol a ganiateir ar gyfer 2023-24.

O fis Ebrill 2023, y terfyn uchaf (cap) y gall rhenti cymdeithasol ei godi fydd 6.5% - cynnydd ymhell islaw cyfradd chwyddiant. Dyma'r uchafswm y gall unrhyw landlord ei godi ar draws eu holl eiddo. 

Nid oes angen i unrhyw landlord godi’r uchafswm a bydd disgwyl i bob landlord ystyried fforddiadwyedd yn ofalus a gosod rhenti fel y bo’n briodol ar draws eu stoc tai.

O fewn y setliad cyffredinol gall landlordiaid rewi, gostwng neu godi rhenti unigol yn seiliedig ar nifer o ffactorau lleol y mae fforddiadwyedd yn ystyriaeth allweddol ohonynt. Uchafswm yw'r gyfradd, nid gofyniad na tharged.

Bydd y rheolau gosod rhent canlynol yn berthnasol ar gyfer 2023-24 yn unig:

Mae’r Gweinidog wedi penderfynu:

  1. Y bydd cyfanswm y codiad rhent blynyddol uchaf ar gyfer 2023/24 ar draws eich stoc gyfan (ar 31 Mawrth 2023) hyd at 6.5%.
  2. Er mai 6.5% fydd yr uchafswm cynnydd a ganiateir, ni ddylid ei ystyried fel y cynnydd rhagosodedig. Rhaid i benderfyniadau landlordiaid ar rent ystyried fforddiadwyedd rhenti i denantiaid.
  3. Y gall lefel rhent eiddo unigol gael ei ostwng, ei rewi neu ei godi hyd at £2 ychwanegol yr wythnos yn fwy na 6.5%, ar yr amod nad yw cyfanswm yr incwm rhent y gellir ei gasglu ar draws y stoc gyfan yn cynyddu o ddim mwy na 6.5%. Mae'r ddarpariaeth hon wedi'i chynllunio i alluogi landlordiaid cymdeithasol i ailstrwythuro rhenti lle bo'n briodol. Mewn gwirionedd, os penderfynwch y dylai rhent(i) unigol gynyddu hyd at £2.00 yr wythnos ar ben 6.5%, bydd angen rhewi neu leihau rhent(i) eraill er mwyn sicrhau nad yw’r cynnydd cyffredinol ar gyfer y stoc gyfan yn rhagori ar 6.5%.
  4. Y dylai landlordiaid cymdeithasol roi gwybod i Lywodraeth Cymru os oes ganddynt bryderon am yr effaith y mae’r safon rhent yn ei chael ar eu cynllun busnes, hyfywedd ariannol neu ar eu gallu i gyflawni eu rhwymedigaethau i denantiaid a benthycwyr.
  5. Fel rhan gynhenid o’r safon rhent pum mlynedd, disgwylir i landlordiaid cymdeithasol osod polisi rhent a thâl gwasanaeth sy’n sicrhau bod tai cymdeithasol yn fforddiadwy ac yn parhau i fod yn fforddiadwy i denantiaid presennol a rhai’r dyfodol. Fel rhan o’r penderfyniad blynyddol ar lefel y codiad/gostyngiad rhent i’w gymhwyso, rhaid i landlordiaid cymdeithasol asesu effeithlonrwydd cost ar draws y sylfaen costau gweithredu a gwerth am arian yn ogystal â fforddiadwyedd i denantiaid.

Wrth wneud y penderfyniad ar renti ar gyfer 2023-24, sicrhaodd Gweinidog Llywodraeth Cymru hefyd gyfres o ymrwymiadau gan landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru i gefnogi tenantiaid sy’n profi caledi ariannol difrifol o ganlyniad i’r argyfwng costau byw.

Nodir y cytundebau newydd hyn isod a'r rhai o flynyddoedd blaenorol yn cael eu diweddaru lle nad ydynt wedi'u disodli:

  • Dim troi allan oherwydd caledi ariannol am gyfnod y setliad, (blwyddyn ariannol 2023/24), lle mae tenantiaid yn ymgysylltu â landlordiaid.
  • Parhau i ddarparu cymorth wedi'i dargedu i'r rhai sy'n profi caledi ariannol i gael cymorth.
  • Gwneud y defnydd gorau o’r holl stoc tai cymdeithasol addas, gyda ffocws ar helpu’r rhai sydd yn y llety trosiannol o’r ansawdd gwaethaf i symud i gartrefi tymor hwy sy’n diwallu eu hanghenion.
  • Cynnal ymgyrch ar y cyd i annog tenantiaid i siarad â’u landlord os ydynt yn profi anawsterau ariannol a chael mynediad at y cymorth sydd ar gael.
  • Adeiladu ar ymgysylltiad presennol â thenantiaid mewn penderfyniadau gosod rhent, gan gynnwys esbonio sut mae incwm o rent yn cael ei fuddsoddi a'i wario.
  • Ymrwymiad i fuddsoddi mewn cartrefi presennol i'w cadw'n ddiogel, yn gynnes ac yn fforddiadwy i fyw ynddynt.
  • Archwilio, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, opsiynau i atal colli cartrefi ar gyfer perchen-feddianwyr a’r rhai yn y sector rhentu preifat.
  • Gweithio mewn partneriaeth â thenantiaid, Llywodraeth Cymru, cyllidwyr a phartneriaid eraill i ddatblygu dull cyson o asesu fforddiadwyedd ar draws y sector tai cymdeithasol yng Nghymru.
  • Cymryd rhan mewn ymarfer sicrwydd yn gynnar yn y flwyddyn ariannol 23/4 i fyfyrio ar gymhwyso’r safon rhent hyd yma. Bydd hyn yn adeiladu ar y gwaith a wnaed gan landlordiaid cymdeithasol dros y 3 blynedd diwethaf ac yn llywio gwaith yn y dyfodol i ddatblygu dull cyson o asesu fforddiadwyedd.

Cytundebau presennol yn cael eu cario ymlaen:

  • Parhau i gryfhau dulliau a gynlluniwyd i sicrhau eich bod yn lleihau pob achos o droi allan a gweithio’n effeithiol gyda phartneriaid i gyflawni’r ymrwymiad i beidio â throi allan i ddigartrefedd.
  • Cynnal arolwg bodlonrwydd tenantiaid safonol a darparu’r data i’w gyhoeddi ar wefan ganolog i gynorthwyo tenantiaid i graffu a chymharu perfformiad landlordiaid.

Beth am fforddiadwyedd?

Mae fforddiadwyedd wrth wraidd y safon ac mae disgwyliadau clir ar Fyrddau Cymdeithasau Tai/LCC ac aelodau Awdurdodau Lleol i ddangos sut y byddent yn ymdrin ag effaith newidiadau rhent a thaliadau gwasanaeth ar incwm eu tenantiaid.

Bydd yn rhaid i landlordiaid cymdeithasol ddangos sut y maent yn lliniaru ac yn rheoli risgiau i incwm tenantiaid, a bydd y rhain yn cael eu monitro’n agos gan swyddogion.

Beth arall sydd angen i landlordiaid cymdeithasol ei wneud o dan y safon?

Mae angen rhestru taliadau gwasanaeth ar wahân i daliadau Rhent fel y gall

tenantiaid weld yn glir pa wasanaethau y maent yn talu amdanynt.

Monitro Cydymffurfiaeth - Mae'n ofynnol i bob landlord cymdeithasol wneud, a rhoi tystiolaeth, asesiad blynyddol o fforddiadwyedd i denantiaid, effeithlonrwydd cost a dangos sut mae eu cartrefi a'u gwasanaethau yn cynrychioli gwerth am arian fel rhan o'u penderfyniad ar y codiad rhent i'w gymhwyso bob blwyddyn.

Dylai landlordiaid cymdeithasol gofio mai’r safon rhent yw’r cynnydd mwyaf y gellir ei gymhwyso. Nid yw’n rhent targed. Er mwyn cynorthwyo i ddarparu’r sicrwydd angenrheidiol, bydd yn ofynnol i bob landlord cymdeithasol lenwi ffurflen fonitro hunanardystio a fydd yn cael ei defnyddio i fonitro cydymffurfiaeth â Safon Rhent Llywodraeth Cymru.

Rhagor o wybodaeth ar gael yma: Addo pecyn cymorth i denantiaid wrth i Weinidog osod cap rhent cymdeithasol newydd i Gymru

Beth mae tenantiaid wedi’i ddweud wrth TPAS Cymru am y cytundeb rhent landlordiaid cymdeithasol ar gyfer 2023-34?

Er mwyn cael cyd-destun, daeth y cyhoeddiad am y cytundeb rhent yn ystod Cynhadledd Flynyddol TPAS Cymru 2022. Cynhaliom sesiwn arbennig ar ddiwedd diwrnod y gynhadledd i roi'r newyddion i denantiaid ac i gael ymateb cychwynnol ar y cyhoeddiad o 6.5%. I rai, dyma oedd y tro cyntaf iddyn nhw glywed am y cyhoeddiad, ac roedden nhw newydd amsugno'r newyddion. Mae’n werth nodi hefyd ynglŷn â’r adborth isod – casglwyd yr adborth hwn mewn cynhadledd yn ystod y diwrnod gwaith, yng nghanolbarth Cymru. Roedd y gynulleidfa’n hŷn na’r boblogaeth tenantiaid gyffredinol, felly adlewyrchir hyn yn y sylwadau.

Adborth tenantiaid ar gytundeb rhent landlordiaid cymdeithasol ar gyfer 2023/24

  1. Roedd yn uwch na'r disgwyl ac roedd teimlad cyffredinol o siom gan denantiaid. Roedd llawer o ddealltwriaeth ynglŷn â’r cyfaddawdu rhwng rhent a gwasanaethau a cheisio cael hynny’n iawn, ond roedd yn uwch nag yr oeddent yn ei feddwl (Cafwyd sylw gan denant yn dweud ‘Cafodd CHC yr hyn yr oeddent ei eisiau fel arfer’).
  2. Roedd y sylwadau cyntaf yn ein sesiwn yn mynegi mwy o bryder ynghylch taliadau gwasanaeth gan y gallent gael eu cynyddu gan % llawer uwch. Roeddent yn teimlo bod taliadau gwasanaeth allan o reolaeth a heb eu rheoleiddio a’u bod yn anfforddiadwy i denantiaid, yn enwedig yn ystod argyfwng costau byw.
  3. Nid oedd rhai pensiynwyr yn cytuno â’r naratif y byddent yn cael eu hyswirio dan godiad pensiwn. Fe wnaethant nodi bod llawer o gostau eraill yn cynyddu ac y byddai'n achosi straen iddynt geisio jyglo'r argyfwng cost-byw hwn.
  4. Roedd staff yn yr ystafell wedi darllen y datganiadau gan gyrff sector fod 7% yn doriad mewn gwasanaethau ac yn pryderu ynghylch ble y byddai’r toriadau hynny’n glanio (gan eu bod yng nghynhadledd TPAS roeddent fel arfer mewn rolau cyfranogiad tenantiaid, cyfathrebu, gweithwyr cymunedol ac ati ac yn poeni y gallent gael eu torri neu y byddai hyn yn effeithio ar eu gwasanaethau.)
  5. Roedd dryswch ynghylch sut y byddai landlordiaid yn dehongli’r setliad hwn – gofynnodd Tenantiaid a fyddai landlordiaid yn codi 6.5% yn gyffredinol, a fyddent yn defnyddio model fforddiadwyedd ac ati.
  6. Yn ddiweddarach wrth i Twitter amsugno'r newyddion, codwyd pryder am gydberchnogaeth.

Dros weddill y gynhadledd, pwysodd TPAS Cymru ar y thema bod angen i Landlordiaid ymgysylltu a thrafod gyda thenantiaid ynghylch beth mae’r cyhoeddiad hwn yn ei olygu iddyn nhw.

Er enghraifft, ar bynciau fel:

  • Egluro unrhyw fodelu a ddefnyddiwyd (Er enghraifft, JRF)
  • Os bydd unrhyw doriadau i wasanaethau neu ddarpariaeth ac ymhle?  

Pa gefnogaeth sydd ar gael, ac a fydd yn cael ei chyfleu i denantiaid?

Enghreifftiau o gwestiynau i'w gofyn i'ch landlord:

  1. Sut a phryd yr ymgynghorir â thenantiaid ar Rent a Thaliadau Gwasanaeth?
  2. Beth yw'r cynlluniau i roi gwybod i denantiaid am yr ymgynghoriad a sut y gallant ddweud eu dweud?
  3. Pa asesiad o effeithlonrwydd cost ohonoch chi fel landlord fydd yn cael ei gynnal fel rhan o'r broses Gosod Rhent?
  4. Sut bydd tenantiaid yn cael gwybod am newidiadau i renti a gwasanaethau? Sut fydd y wybodaeth hon ar gael i bob tenant?
  5. Pa gynlluniau sydd ar waith i gefnogi tenantiaid sy'n cael trafferth talu eu rhent?

Gobeithio eich bod wedi mwynhau darllen y rhifyn hwn o'r Agenda. Byddem wrth ein bodd yn clywed am unrhyw sgyrsiau rydych chi wedi'u cael gyda'ch landlord ynglŷn â'r pwnc hwn, felly e-bostiwch [email protected] gydag unrhyw adborth neu gwestiynau pellach.