Dydd Iau 20 Mai at 11:00 – 13:00
Ymunwch â ni a swyddogion Llywodraeth Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, yn benodol yr ymgynghoriad pwysig cyfredol ar y contractau ysgrifenedig enghreifftiol drafft a fydd yn disodli cytundebau a thrwyddedau presennol tenantiaid.
Rydym wedi gwahodd Llywodraeth Cymru ac arweinydd Rhentu Cartrefi De Cymru i rannu mewnwelediad i'r contractau enghreifftiol a'r hyn y mae'n ei olygu i denantiaid a landlordiaid.
Hefyd, yn ystod y sesiwn hon, byddwn yn ymchwilio i edrychiad a theimlad y contractau enghreifftiol a'r hyn y byddant yn ei olygu unwaith y bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn cael ei gweithredu.
Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i gael y wybodaeth ddiweddaraf ac i wybod am y newidiadau arfaethedig pwysig hyn.
Ar gyfer pwy mae’r sesiwn?
Rydym eisiau rhoi cyfle i staff, tenantiaid a'r rheini sydd â diddordeb mewn tai i gael y wybodaeth llawn ddiweddaraf i'ch helpu chi i gyfrannu at yr ymgynghoriad hwn.
Cost:
Tenants: AM DDIM
Staff/ Aelodau Bwrdd: £29 +TAW (aelodau) - £59 +TAW (pawb arall)
I archebu eich lle ar y sesiwn, cliciwch y ddolen Zoom yma https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZYkce2spj4vHd0eX2dzdZ3zmalkrbOx9wqT
Noder - Yn dilyn y sesiwn ddiweddaru hon, byddwn yn cynnal dwy sesiwn ychwanegol AM DDIM i roi cyfle i denantiaid a swyddogion awdurdodau lleol fewnbynnu i ymateb ymgynghoriad TPAS Cymru. Manylion isod. Mae'r sesiynau hyn yn gyfle go iawn i sicrhau na chollir unrhyw beth. Mae cynnwys tenantiaid yn allweddol i sicrhau bod contractau yn y dyfodol yn wirioneddol adlewyrchu anghenion tenantiaid ac ni allwn wneud hynny heb glywed gennych chi, fel tenantiaid a staff sy'n gweithio â thenantiaid.
Cefndir
Bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn symlach ac yn haws rhentu cartref yng Nghymru, gan ddisodli amryw ddarnau cymhleth o’r ddeddfwriaeth bresennol gydag un fframwaith cyfreithiol clir. Bydd 'contractau meddiannaeth' newydd yn disodli tenantiaethau a thrwyddedau preswyl cyfredol. Mae gweithredu’r Ddeddf wedi cael ei ohirio dros amser am nifer o resymau, ond rydym bellach o’r diwedd ar y cam lle mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar Fodel ddrafft.
Bydd ein hail sesiwn yn cael ei chynnal ar 8 Mehefin: 10:30 - 12:00. Bydd hwn yn gyfle i denantiaid drafod eu meddyliau gyda ni ar sut y dylai contractau edrych yn y dyfodol.
Bydd ein trydedd sesiwn yn cael ei chynnal ar 8 Mehefin: 13:30 – 15:00. Bydd hwn wedi'i anelu at ein haelodau Awdurdod Lleol sydd mewn rolau sy'n wynebu tenantiaid ac sy'n teimlo yr hoffent lunio contractau yn y dyfodol.
Polisi Canslo - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
-
Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected] Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
-
Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
-
Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
-
Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi.
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Contractau Enghreifftiol Rhentu Cartrefi – Beth sydd angen i chi ei wybod
Dyddiad
Dydd Iau
20
Mai
2021, 11:00 - 13:00
Archebu Ar gael Tan
Dydd Mercher 19 Mai 2021
Math o ddigwyddiad
Gwybodaeth a mewnwelediad
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad