7 Chwefror 2024, 10am-2pm
Sut olwg sydd ar ddyfodol cyfathrebu yn nhai Cymru?
Mae cyfathrebu â thenantiaid yn un o gyfrifoldebau pwysicaf landlord.
Byddwch yn rhan o'n Cynhadledd Cyfathrebu Tenantiaid Genedlaethol newydd sbon i gael y wybodaeth ddiweddaraf am Gyfathrebu a chlywed gan ein siaradwyr arbenigol ar sut y gallwn sicrhau bod ein cyfathrebiadau yn llwyddiannus nid yn unig nawr, ond hefyd yn y dyfodol.
Gydag 1/3 o boblogaeth Cymru bellach yn rhentu, gadewch i ni uno fel sector tai i rannu rhai o’r dulliau, arferion, ymchwil a diweddariadau arloesol sy’n ymwneud â chyfathrebu ym maes tai.
Yn ein harolwg Pwls Blynyddol 2023, dywedodd 51% o denantiaid tai cymdeithasol eu bod yn credu y dylai eu landlord roi blaenoriaeth i wrando ar denantiaid, gyda 39% o denantiaid tai cymdeithasol eisiau cynlluniau cliriach.
Felly sut allwn ni sicrhau bod ein gweithgareddau cyfathrebu ac ymgysylltu digidol yn llwyddiannus ac yn effeithiol i holl denantiaid Cymru?
Siaradwyr:
-
Natalie Tate, Rheolwr Cyfathrebu Strategol, Siarad am Dai (Sefydliad Joseph Rowntree)
-
Steve Hayes, Cyfarwyddwr Materion Corfforaethol a Chyfathrebu, GreenSquareAccord
-
Melanie Jones, Swyddog Strategaeth Ymgysylltu, Gwasanaethau Tai Cyngor Sir Powys
Mwy o Siaradwyr i'w cyhoeddi.
Cofrestrwch nawr i sicrhau eich lle! Cliciwch yma:
Cost i fynychu (fesul person):
-
Staff: £69+TAW
-
Tenantiaid: £29+TAW
-
Pawb Arall: £89+TAW
Telerau ac Amodau - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
-
Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected] Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
-
Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
-
Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
-
Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
-
Ar gyfer ein digwyddiadau taledig sylwch, dim ond un person all ddefnyddio un cofrestriad taledig, a gwaherddir rhannu dolenni ymuno / sgriniau. Felly, rhaid i bob person sy'n mynychu'r digwyddiad hwn gael cofrestriad ar wahân.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Cynhadledd Genedlaethol Cyfathrebu â Thenantiaid
Dyddiad
Dydd Mercher
07
Chwefror
2024, 10:00 - 14:00
Archebu Ar gael Tan
Dydd Mawrth 06 Chwefror 2024
Math o ddigwyddiad
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad